Cost of Living Support Icon

 

Mae’r Oriel Gelf Ganolog wedi cynnal Arddangosiad Diwedd y Flwyddyn am y ddeuddegfed flwyddyn yn olynol

Yn ddiweddar, agorodd Coleg Caerdydd a’r Fro ei arddangosiad yn yr Oriel Gelf Ganolog, oriel enwog Cyngor Bro Morgannwg.

  • Dydd Gwener, 21 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg



Roedd yr arddangosiad yn cynnwys gwaith gan fyfyrwyr Lefel A, y Cwrs Sylfaen a lefel gradd yn CAVC. Bu'n arddangos amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys cerameg, tecstilau, dylunio graffig a phaentio.  


Aeth yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, y Cyng Ben Gray, i’r diwrnod agor a chroesawu ymwelwyr. Dywedodd: “Mae’r Cyngor yn falch o gefnogi’r celfyddydau yn gryf ac mae Adran Gelf y Coleg yn chwarae rôl enfawr wrth feithrin sgiliau creadigol preswylwyr y Fro. 

 

“Dylai’r holl ddisgyblion fod yn falch iawn o’u llwyddiannau ac rydym wrth ein boddau’n gallu cynnal Arddangosiad Diwedd y Flwyddyn y myfyrwyr eto eleni.”

Yn rhan o arddangosiad y coleg, datblygodd myfyrwyr broject er budd elusen Apêl y Pabi Coch, a gwerthu gwaith celf i godi arian at yr achos. Yn yr agoriad, cyflwynwyd siec werth £350 i’r Lleng Brydeinig Frenhinol. 

 

Bu cyflwyniad hefyd i fyfyrwraig CAVC, Elena Louge, a enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn Diploma Sylfaen CBAC. 

 

Am ragor o wybodaeth am yr Oriel Gelf Ganolog a gweithgareddau celfyddydol eraill yn y Fro, ewch i: www.valeofglamorgan.gov.uk/artcentral

 

Art Central CAVC exhibition2