Cost of Living Support Icon

 

Estyniad i Ysgol Gynradd Dewi Sant yr Eglwys yng Nghymru wedi'i gymeradwyo 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynigion, a gyflwynwyd gan gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Dewi Sant yr Eglwys yng Nghymru, i ymestyn yr ysgol o 140 o leoedd i 210 o leoedd. 

 

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



St Davids Photo 2Mae ysgol newydd â lle i 210 o ddisgyblion ar gyfer Ysgol Gynradd Dewi Sant yr Eglwys yng Nghymru yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Bro Morgannwg.


Cynigir adeiladu’r ysgol newydd ar y safle presennol, gyda’r holl staff a’r disgyblion yn trosglwyddo i’r adeilad newydd erbyn mis Medi 2021.


Bydd angen buddsoddiad gwerth £4.185 miliwn ar yr ysgol newydd, fydd yn cael ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru gyda chyllid ychwanegol yn dod o gyfraniadau A106 datblygiadau cyfagos.


Cynllun buddsoddi hirdymor yw rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o greu amgylcheddau dysgu modern sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif. Yn rhan o Fand B y cynllun, bydd tua £144 miliwn yn cael ei fuddsoddi ledled Bro Morgannwg. 

 

Wrth gymeradwyo’r estyniad, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett:

 

“Mae’n hollbwysig ein bod yn buddsoddi mewn ysgolion pan fydd cyfleoedd ariannu’n codi. Drwy ymestyn Ysgol Gynradd Dewi Sant yr Eglwys yng Nghymru rydym yn sicrhau y gall yr ysgol ateb galw’r dyfodol a darparu amgylchedd dysgu modern sy’n addas at y diben i ddisgyblion.”