Sêr rygbi Cymru yn mynychu agoriad ardal chwarae newydd
Bu chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru, Dan Biggar a Dan Lydiate yn mynychu agoriad ardal chwarae gyfoes yn Nhregolwyn, fel rhan o ddathliadau yn ffair flynyddol y pentref dros y penwythnos.

Cafodd y siglenni, unedau dringo, sleidiau a chylchfan â mynediad cadeiriau olwyn eu hagor yn swyddogol i blant lleol gan y Carol Ravenscroft, Aelod Pwyllgor Cymdeithas Gymunedol Tregolwyn, a chynrychiolwr un o’r sawl grŵp cymunedol oedd yn rhan o’r gwaith adnewyddu.
Arweiniwyd y cynllun £75,000 gan Gyngor Bro Morgannwg gydag arian hefyd yn cael ei gyfrannu gan Gymdeithas Neuadd Gymuned Tregolwyn a Chyngor Cymuned Tregolwyn.
“Mae’n wych gweld plant lleol yn mwynhau’r cyfleusterau chwarae newydd hyn.
“Mae chwarae’n rhan mor bwysig o ddatblygiad plant ac mae gan blant a phobl ifanc Tregolwyn bellach gyfleusterau hygyrch o safon ar garreg eu drws.
“Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio’n galed i sicrhau bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o gyfraniadau A106 gan ddatblygwyr tai’n cael eu ac mae’r cynllun hwn yn enghraifft wych o’n timau cydweithio â grwpiau cymunedol i sicrhau ein bod yn cyflawni cynllun sy’n bodloni anghenion lleol.” - Dywedodd y Cyng. Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.
“Mae’r cyfleuster bendigedig hwn yn ychwanegu at y gwelliannau mae Cymdeithas y Neuadd Bentref wedi’u gwneud i neuadd y pentref a’r ardal o’i chwmpas er budd y gymuned leol.
“Mae hi bron yn dair blynedd ers dechrau’r project, pan wnaeth un o’r cyn-drigolion, Tom Corry, ddechrau gwaith y pwyllgor ac mae wedi’i gyflawni gyda chefnogaeth frwd y trigolion lleol drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian ac ymgynghori i helpu i godi cyfraniad ariannol y pwyllgor.
“Felly diolch i drigolion a chyfeillion Tregolwyn sydd wedi rhoi cefnogaeth ryfeddol i ni!
“Yn olaf, diolch hefyd i Gyngor Bro Morgannwg sydd wedi arwain y pwyllgor drwy’r broses a llwyddo i adeiladu’r rhaglen i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cynllun agor.” - Alan Horton, Cadeirydd Cymdeithas Neuadd Gymuned Tregolwyn.
Mae’r ardal chwarae i blant hyd at 12 oed. Yn ogystal â’r offer newydd, mae’r ardal chwarae wedi cael arwyneb newydd gyda seddi a biniau newydd wedi'u gosod.