Cost of Living Support Icon

 

Microsglodynnu Ceffylau a Chlinig Pasbort

Clinig microsglodynnu a phasbort i berchnogion ceffylau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

  • Dydd Mercher, 24 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg

 

 

Horse-with-vet

Er mwyn hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Adnabod Ceffylau newydd, mae’r gwasanaethau rheoliadol a Rennir (GRhR) mewn partneriaeth â’r RSPCA, Cymdeithas Ceffylau Prydain a B& W Equnie Vets, yn trefnu clinigau microsglodynnu a phasbort i aelodau’r cyhoedd sydd â cheffylau.  

 

Microsglodynnu Ceffylau a Chlinig Pasbort

Bydd y cyntaf o sawl clinig yn cael ei gynnal ar 08 Awst, 9.99am – 5.00pm yn:

 

Fferm Seabank

Mardy Road

Caerdydd

CF3 2EH.

 

Pris: Microsglodyn a phasbort ceffyl £35

 

I gadw lle

Mae’n anfoddol cadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn, os nad ydych wedi cadw lle, cewch eich gwrthod. I gadw lle ffoniwch Kate Richards, Swyddog Iechyd a Lles Anifeiliaid, Arweinydd Ceffylau:

 

  • 0300 123 6696

 

Sylwch: Nid oes raid i chi fod wedi cofrestru gyda B&W Equine Vets er mwyn mynychu’r digwyddiad hwn.

Rheoliadau Adnabod ceffylau (Cymru)

Ar 12 Chwefror 2019 daeth y Rheoliadau Adnabod Ceffylau i rym yng Nghymru.

  • Trosglwyddo perchnogaeth ceffylau

    Rhaid i’r perchennog presennol ddarparu’r pasbort ceffylau ar adeg trosglwyddo’r berchnogaeth. 

     

    Cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod yn dilyn trosglwyddo’r berchnogaeth, rhaid i’r perchennog newydd hysbysu’r awdurdod sy’n cyhoeddi’r pasbortau o’r trosglwyddiad a’r manylion. 

     

     

  • Pasbort a Microsglodyn

    Erbyn 31 Rhagfyr ym mlwyddyn galendr geni’r ceffyl; neu 6 mis wedi geni’r ceffyl (pa un bynnag a ddaw yn gyntaf), rhaid bod y perchennog wedi gwneud cais am basbort ceffylau a bod a microsglodyn wedi ei fewnblannu.

     

    Nid oes eithriad ar gael mwyach i geffylau a aned ar neu cyn 30 Mehefin 2009.

     

    Rhaid i bob ceffyl sy’n syrthio i’r categori hwn gael microsglodyn wedi ei fewnblannu erbyn 12 Chwefror 2021.