Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 17 Mis Ionawr 2019
Bro Morgannwg
Penarth
Adeiladwyd y llwyfan gan gontractwyr ym mis Mai 2015 ond datblygodd hollt ar yr adeiledd chwe mis yn ddiweddarach.
O ganlyniad, caewyd y llwyfan am gyfnod i alluogi archwilio’r llwyfan ac wyneb y clogwyn a sefydlwyd rhaglen fonitro.
Pan ddatgelwyd nad oedd asiadau symudol wedi’u hadeiladu yn unol â’r dyluniad gwreiddiol, gofynnwyd i’r contractwr eu gosod fel a fwriadwyd.
Mae monitro pellach wedi datgelu problemau eraill gyda’r gwaith adeiladu a fyddai’n esbonio’r hollti a bydd contractwyr nawr yn ymgymryd â gwaith ychwanegol i gywiro hyn.
Dylai hynny alluogi ailagor y llwyfan o fewn rhyw bedair wythnos.
Yna bydd y Cyngor yn parhau i asesu’r adeiledd trwy ddefnyddio offer dibynadwy i geisio atal problemau yn y dyfodol.
Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Bro Morgannwg: “Mae lles y cyhoedd yn hollbwysig i ni ac i’r perwyl hwn rydym wedi bod yn drylwyr yn ein harchwiliadau diogelwch o Lwyfan Gwylio Penarth ac wedi mynnu bod y contractwyr yn cwblhau’r holl waith adfer angenrheidiol. “Mae’n bleser mawr gennyf ddweud ei bod yn ymddangos bod y problemau gyda’r adeiledd hwn bellach yn perthyn i’r gorffennol a dylai ailagor mewn mis. “Mae’r llwyfan yn cynnig golygfeydd godidog ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac rwy’n siŵr y bydd yn rhoi pleser mawr i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Bro Morgannwg: “Mae lles y cyhoedd yn hollbwysig i ni ac i’r perwyl hwn rydym wedi bod yn drylwyr yn ein harchwiliadau diogelwch o Lwyfan Gwylio Penarth ac wedi mynnu bod y contractwyr yn cwblhau’r holl waith adfer angenrheidiol.
“Mae’n bleser mawr gennyf ddweud ei bod yn ymddangos bod y problemau gyda’r adeiledd hwn bellach yn perthyn i’r gorffennol a dylai ailagor mewn mis.
“Mae’r llwyfan yn cynnig golygfeydd godidog ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac rwy’n siŵr y bydd yn rhoi pleser mawr i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.”