Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 05 Mis Chwefror 2019
Bro Morgannwg
Barri
Ar thema'r jyngl, mae'r siglenni wedi’u gwella ac mae offer newydd ar gyfer plant bach wedi’i osod, gan gynnwys troellwr disgiau aml-uned, anifeiliaid ar sbring a phaneli gemau, tra bod yr ardal hefyd wedi cael arwyneb newydd.
Dyma’r diweddaraf mewn rhestr hir o ardaloedd chwarae sydd wedi’u gwella, gyda nifer o safleoedd ledled y Fro yn cael yr un driniaeth.
Cyfanswm y gwaith oedd £49,000, gyda'r arian yn dod drwy gyfraniadau a sicrhawyd gan y Cyngor fel rhan o ddatblygiadau gerllaw.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: “Mae sicrhau bod gan blant amgylcheddau diogel, modern a diddorol yn nod pwysig i’r Cyngor hwn. “Mae ardaloedd chwarae ledled y Fro wedi manteisio ar y gwelliannau hyn. Batts Field yw’r diweddaraf o’r rhain, ond nid hwn fydd yr olaf yn sicr. “Hoffwn ddiolch i’r Aelodau Ward lleol, y Cynghorwyr Bronwen Brooks a Sandra Perkes, am eu hymdrechion yn helpu i gyflawni’r cynllun, ynghyd â’r contractwyr Sutcliffe Play a wnaeth y gwaith. “Rwy’n gobeithio y bydd y gymuned leol yn mwynhau eu hardal chwarae newydd ac y bydd yn helpu i annog ffordd o fyw iach ac actif, sef yr hyn y mae’r Cyngor eisiau ei hyrwyddo.”
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: “Mae sicrhau bod gan blant amgylcheddau diogel, modern a diddorol yn nod pwysig i’r Cyngor hwn.
“Mae ardaloedd chwarae ledled y Fro wedi manteisio ar y gwelliannau hyn. Batts Field yw’r diweddaraf o’r rhain, ond nid hwn fydd yr olaf yn sicr.
“Hoffwn ddiolch i’r Aelodau Ward lleol, y Cynghorwyr Bronwen Brooks a Sandra Perkes, am eu hymdrechion yn helpu i gyflawni’r cynllun, ynghyd â’r contractwyr Sutcliffe Play a wnaeth y gwaith.
“Rwy’n gobeithio y bydd y gymuned leol yn mwynhau eu hardal chwarae newydd ac y bydd yn helpu i annog ffordd o fyw iach ac actif, sef yr hyn y mae’r Cyngor eisiau ei hyrwyddo.”