Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 24 Mis Rhagfyr 2019
Bro Morgannwg
Cludwyd cyfanswm o chwech o focsys bwyd, nwyddau tymhorol a phethau ymolchi i Fanc Bwyd y Fro, a gaiff eu dosbarthu i deuluoedd mewn angen ym Mro Morgannwg.
Yn ogystal codwyd rhoddion ariannol gwerth £220, a ddefnyddiwyd i brynu teganau i blant yn y Fro fel rhan o’r Apêl Teganau blynyddol The Big Wrap.
Nod The Big Wrap ydy rhoi anrhegion i blant o oedran genedigaeth i 19 oed sydd mewn perygl o gael dim byd neu ychydig iawn adeg y Nadolig. Mae Banc Bwyd y Fro yn gweithio yn yr un modd, yn rhoi bwyd i bobl mewn argyfwng.
Mae’r ddau sefydliad yn dibynnu ar roddion.
“Yn drist iawn, bydd llawer o deuluoedd a phobl ifanc heb ddim y Nadolig hwn. Mewn llawer o achosion, bydd chwant bwyd neu angen ‘cudd’, nad yw’n amlwg i’r rheiny sydd o’u cwmpas. “Rydym yn anhygoel o lwcus yn y Fro i gael cymuned hael, glos a chefnogol, sy’n estyn allan at y rheiny sydd mewn angen. Diolch i bawb a fu’n rhan o’r ymgyrch hon, bydd eich rhoddion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr." - y Cynghorydd. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd.
“Yn drist iawn, bydd llawer o deuluoedd a phobl ifanc heb ddim y Nadolig hwn. Mewn llawer o achosion, bydd chwant bwyd neu angen ‘cudd’, nad yw’n amlwg i’r rheiny sydd o’u cwmpas.
“Rydym yn anhygoel o lwcus yn y Fro i gael cymuned hael, glos a chefnogol, sy’n estyn allan at y rheiny sydd mewn angen. Diolch i bawb a fu’n rhan o’r ymgyrch hon, bydd eich rhoddion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr." - y Cynghorydd. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd.