Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 09 Mis Hydref 2017
Bro Morgannwg
Canolbwyntir yn gyntaf ar y gylchfan, gyda gwaith yn cael ei wneud rhwng 8.00pm a 6.00am o ddydd Llun i ddydd Iau ac ni fydd cyfyngiadau ar ffyrdd yn ystod y dydd er mwyn peidio â tharfu ormod ar y cyhoedd.
“Dyma waith pwysig ar ardal a ddefnyddir gan nifer eithriadol uchel o bobl. Mae’n hollbwysig bod y seilwaith hwn yn y cyflwr gorau, sef y rheswm ein bod ni, ochr yn ochr â chydweithwyr o Gyngor Caerdydd, wedi penderfynu mynd i’r afael â’r project hwn."- Cyng Geoff Cox, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.
Bydd yr wyneb tarmac newydd yn cynnwys deunydd arbennig sy’n debyg o bara, wedi’i ddylunio i ymdopi â lefel uchel o draffig.
Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau ddydd Sul 22 Hydref ac amcenir y bydd yn cymryd pythefnos i’w gwblhau.
Arwyneb y ffyrdd
Ar ôl cwblhau’r gwaith, caiff gwaith pellach ei wneud i ail osod yr wyneb ar hyd yr A48 hyd at Tumble Hill, yn ystod amseroedd tebyg i’r cam cyntaf a disgwylir i’r gwaith hwnnw hefyd bara am bythefnos.
Yn ystod y gwaith, caiff y gyffordd ei rheoli gan gyfyngiadau lôn ac er gwaethaf y mesurau fydd wedi’u cymryd, mae rhywfaint o oedi'n bosibl.
Caiff llythyron eu hanfon at drigolion a busnesau lleol yn rhoi gwybod iddynt am y project.