Arwyneb Confensiynol
Bwriad yr arwyneb newydd yw adfer neu wella proffil/ansawdd arwyneb ffordd, esmwythder, draenio a gwrthsefyll llithro.
Fel arfer, bydd yr arwynebu ar ffurf brithwaith (ar ffyrdd trefol) neu droshaenu (yng nghefn gwlad gan amlaf). Brithwaith – mae hen arwyneb y ffordd yn cael ei blaenio i ffwrdd ac mae deunydd newydd addas yn cael ei osod drosto. Gall hyn olygu tynnu ac ailosod haenau is y ffordd hefyd.
Tros-haenu – ychwanegu deunydd at y ffordd gyfredol i wella’r proffil a’i chryfhau. Yn ogystal â thros-haenu’r arwyneb, gellir ailadeiladu’r ffordd mewn mannau cyn tros-haenu’r arwyneb. Y deunydd mwyaf cyffredin a ddefnyddir yn y Fro ar hyn o bryd yw 'Carreg Asffalt Mastig' (CAM) a tharmacadam bitwmen. Fe’i gosodir yn drwch o 40mm i 60mm fel arfer.