Dechrau’n Deg sy’n ei drefnu, rhaglen ar y cyd gan Gyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 2pm ddydd Mawrth 30 Mai yn Sgwâr y Brenin, a bydd deiliad gwregys Pwysau Plu yr IBF Selby yno o tua hanner dydd pan fydd ystod o sefydliadau, gan gynnwys Gwasanaeth Tân De Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwylwyr y Glannau'n hyrwyddo negeseuon am ddiogelwch mewn ffordd ddifyr, greadigol a diddorol.
Caiff teuluoedd eu hannog i ddod i'r digwyddiad sy'n hyrwyddo Wythnos Diogelwch Plant a chaiff rhieni eu hannog i gymryd camau bach tuag at fywydau mwy diogel iddyn nhw ac i’w plant.
“Rwy’ wir yn edrych ymlaen at fynd i’r digwyddiad hwn,” dywedodd Selby. “Gall pob un ohonom ni elwa drwy fod yn fwy diogel yn ein bywydau o ddydd i ddydd ac mae dysgu am ddiogelwch yn wers bwysig iawn i'n plant. Gobeithio y bydda i’n dysgu ambell beth!”
Mae wythnos Diogelwch Plant yn rhan o ymgyrch addysg gymunedol yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant, sy'n annog sefydliadau fel Dechrau'n Deg i godi ymwybyddiaeth o ddamweiniau plentyndod difrifol, gan gynnwys rhoi cyngor a chamau syml i'w hatal.
Y neges allweddol yw bod camau at ddiogelwch yn fach ond drwy eu cymryd gall teuluoedd wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant.
Ariennir Dechrau’n Deg gan Lywodraeth Cymru ac mae’r tîm yn y Barri’n gweithio gyda theuluoedd i roi canlyniadau cadarnhaol i blant ifanc.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i Dechrau'n Deg neu anfonwch e-bost i flyingstart@valeofglamorgan.gov.uk.