Cost of Living Support Icon
Flying-Start-logo

Dechrau’n Deg  

Cynllun gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd er mwyn rhoi dechrau da mewn bywyd i blant yw Dechrau’n Deg.  

 

Dechrau’n Deg, Gladstone Road, Y Barri, CF63 1NH
  • Dechrau'n Deg y Fro

 

Ydych chi’n gymwys? 

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg, rhaid i chi fyw yn y dalgylch. Rhowch eich cod post yn y blwch i weld a ydych chi mewn dalgylch cymwys 

 

Fel arall, chwiliwch y dogfennau isod i weld y codau post sydd yn y dalgylch:

 

Ymwelwyr iechyd a bydwreigiaeth

Mae ein tîm yn cynnig cefnogaeth a chyngor drwy gydol y beichiogrwydd a blwyddyn gyntaf eich plentyn.

 

Gofal plant – mae gofal plant yn rhad ac am ddim ar gael o ddwy flwydd oed ymlaen yn ein grwpiau chwarae pwrpasol, neu yn y cartref gyda gofalwyr plant cofrestredig.

 

Mae Cefnogaeth y Blynyddoedd Cynnar - Sesiynau chwarae a dysgu a datblygu iaith, dulliau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol eich plentyn ar gael mewn amryw o leoliadau neu yn y cartref.

 

Magu plant – rydyn ni’n darparu cymorth i’r teulu cyfan ac yn cynnal sesiynau magu plant gydol y flwyddyn, ynghyd â chyrsiau sgiliau craidd i rieni.

 

Partneriaeth i Rieni Ifan – rydyn ni’n cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i famau ifanc a’u babanod yn ein Canolfan Deulu.

 

 

 

Cynnig Gofal Plant 2 Oed

Ym mis Ebrill 2023, dechreuodd Dechrau'n Deg ym Mro Morgannwg gyflwyno ei gynnig gofal plant 2 oed yn unol â’r broses o ehangu’r Ddarpariaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar gan Lywodraeth Cymru.  Ar hyn o bryd mae'n cael ei gynnig i godau post dethol, ond bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol ar draws pob ardal ym Mro Morgannwg.   Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i ni eto pryd fydd y cynnig yn cael ei gyflwyno'n llawn.

Mae'r cynnig gofal plant 2 oed yn darparu 12.5 awr o ofal plant yr wythnos yn ystod y tymor.  Bydd plant yn gymwys am y cynnig o’r tymor ar ôl eu hail ben-blwydd tan y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Gellir cynnig gofal plant mewn Lleoliadau Dechrau'n Deg, a gyda lleoliadau gofal plant preifat sydd wedi'u cofrestru i ddarparu'r cynnig gofal plant 2 oed. 

I ddarganfod a ydych yn gymwys i gael y cynnig gofal plant 2 oed, gallwch ddefnyddio'r gwiriwr cod post uchod.  Os ydych yn gymwys, bydd y system yn eich cyfeirio at y Porth Dinasyddion i gyflwyno cais.  Yn dilyn eich cais, bydd ein Swyddog Cyswllt Gofal Plant yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i drafod eich gofynion. 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y broses o ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar gan y Llywodraeth yn raddol - Gofal Plant Dechrau'n Deg

Gwybodaeth Ychwanegol

Gall bob lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynnig gofal plant 2 oed fanteisio ar gymorth ychwanegol gan y Tîm Cynhwysiant Dechrau'n Deg, ymweliadau rheolaidd o ansawdd a hyfforddiant ychwanegol. 

Os oes gan unrhyw leoliadau gofal plant ddiddordeb mewn darparu'r cynnig gofal plant 2 oed, dylent gysylltu â'r tîm ar 01446 725106 neu e-bostio 2yearoldchildcare@valeofglamorgan.gov.uk

Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd roi gwybodaeth am ffynonellau eraill o gymorth gyda chostau gofal plant.  Er enghraifft, y Cynllun Gofal Plant Di-dreth a'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant 3 i 4 oed

Cymorth gyda Chostau Gofal Plant.

S12 3208  Vale FIS RGB Flat

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gofal plant, gweithgareddau a gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc a gwasanaethau cymorth i deuluoedd ym Mro Morgannwg.

 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd