Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae’r arddangosfa yn rhoi llwyfan i waith gorau myfyrwyr CCAF ac mae’n cwmpasu ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys cerameg, tecstilau, dylunio graffeg, arlunio a gosodiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’r gwaith sydd i’w weld yn yr Oriel Gelf Ganolog o’r radd flaenaf heb os. Mae cael gweld eu gwaith mewn oriel gyhoeddus yn gam mawr yn natblygiad yr arlunwyr ifanc hyn ac rwy’n falch bod y Cyngor wedi gallu gwneud hyn yn bosibl. Mae byd celf bywiog yn y Fro ac mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro wedi eu rhoi eu hunain yng nghanol yr arddangosfa hon.”
Mae CCAF yn un o golegau mwyaf y wlad ac mae llawer o’i gyrsiau celf yn cael eu cynnal ym mhrif gampws y Fro yn y Barri.
Mae’r arddangosfa ar agor i’r cyhoedd tan Ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2017 (10am – 4.30pm yn ystod yr wythnos a 10am – 3.30pm ar Ddydd Sadwrn). Mae’r Oriel Gelf Ganolog yn Neuadd y Dref, Sgwâr y Brenin, Y Barri, CF63 4RW.
Mae rhagor o wybodaeth am yr oriel a gweithgareddau celf eraill yn y Fro ar-lein: www.valeofglamorgan.gov.uk/artcentral.