Cost of Living Support Icon

Newydd i e-siop?

Canllaw cam wrth gam ar sut i gyfrannu at Achos Siôn Corn ar-lein

 

  • Dilynwch y ddolen i dudalen rhoddion Achos Siôn Corn yn e-siop Cyngor Bro Morgannwg

  • Os byddwch yn mynd i mewn drwy adran Cyrsiau'r Fro ar ein gwefan, bydd angen i chi ddewis rhoddion Achos Siôn Corn o'r ddewislen ar ochr chwith y dudalen

  • Cliciwch ar y botwm 'ychwanegu at y fasged'. Dylai ffenestr newydd ymddangos. Cliciwch ar y botwm 'cyflwyno' gwyrdd. Bydd hyn yn mynd â chi i'r dudalen mewngofnodi cyfrif e-siop

  • Os nad oes gennych gyfrif e-siop eisoes, bydd angen i chi greu un. Dim ond 2 funud sydd eu hangen. Yn anffodus, ni allwn gymryd rhoddion heb gyfrif

  • Mewngofnodwch i'ch cyfrif presennol neu cliciwch ar y botwm 'cofrestru ar gyfer cyfrif'. Os ydych chi ar ffôn symudol, efallai y bydd yn rhaid i chi sgrolio i lawr i weld hyn

  • Os ydych chi'n creu cyfrif newydd, yna cewch eich tywys i dudalen newydd. Rhowch eich cyfeiriad e-bost, gosodwch gyfrinair ar gyfer eich cyfrif, a rhowch eich enw. Cliciwch 'Creu Cyfrif'

  • Bydd ffenestr newydd yn agor i chi ddarparu eich cyfeiriad. Ar ôl i chi wneud hyn cliciwch 'arbed' a byddwch yn cael eich ailgyfeirio i'r dudalen dalu

  • Ar y pwynt hwn gallwch ddewis faint yr hoffech ei gyfrannu

  • Ychwanegwch y swm yr hoffech ei roi i Achos Siôn Corn i’r blwch 'hoffech chi wneud rhodd?' yna cliciwch 'ychwanegu'. Fe welwch fod y swm hwn bellach yn ymddangos o dan 'opsiynau wedi’u dewis'. Os ydych chi'n hapus gyda'r swm a ddangosir cliciwch 'arbed a pharhau’

  • Ar y dudalen nesaf dewiswch 'defnyddio cerdyn credyd newydd' ac yna cliciwch 'arbed a pharhau'. Ar y dudalen nesaf, gwiriwch eich manylion personol a chyfanswm y swm a addawyd. Os ydych chi'n hapus yna cliciwch 'Prosesu Archeb'

  • Rhowch fanylion eich cerdyn ar y dudalen Talu Ar-lein ac unwaith y bydd pob maes wedi'i gwblhau cliciwch 'parhau'. Gwiriwch fod 'gwybodaeth deiliad y cerdyn' ar y dudalen nesaf yn gywir, diweddarwch hi os nad, a phan fyddwch yn hapus cliciwch 'parhau'

  • Ar y dudalen olaf fe welwch y cyfanswm rydych chi wedi dewis ei roi a rhywfaint o wybodaeth deiliad cerdyn yn cael ei harddangos eto. Os ydych chi'n hapus yna cliciwch 'Gwneud Taliad’

  • Efallai y bydd eich darparwr cerdyn yn gofyn i chi gymryd camau ychwanegol i awdurdodi taliadau ar-lein

 

Diolch am gyfrannu at achos Siôn Corn. Bydd eich cyfraniad yn helpu i wneud plentyn yn hapus y Nadolig hwn ac yn lleddfu rhywfaint o'r straen a'r pryder y mae llawer o deuluoedd yn ei brofi yr adeg hon o'r flwyddyn.