Cost of Living Support Icon

Web and Channel Development Lead Banner

Arweinydd Datblygu'r We a Sianeli

Ydych chi'n olygydd cynnwys talentog sy'n chwilio am her newydd? Oes gennych chi brofiad o weinyddu system rheoli cynnwys a’r hyn sydd ei angen i arwain rhwydwaith o olygyddion cynnwys wrth greu profiad ar-lein rhagorol i drigolion Bro Morgannwg? Allech chi fod yn ffigwr allweddol mewn rhaglen newid digidol a fydd yn gwella'r ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eu darparu?

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am rywun a all groesawu’r her o reoli portffolio o wefannau y mae miloedd o ddefnyddwyr yn eu defnyddio bob wythnos, tra'n datblygu eu cynnwys a'u swyddogaethau ar yr un pryd yn unol â'n rhaglen newid digidol uchelgeisiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am fewnrwyd y Cyngor, y dibynnir arni gan fwy na 3,000 o aelodau o staff.

 

I gyflawni’r rôl hon yn llwyddiannus bydd angen sgiliau cynnwys o'r radd flaenaf arnoch. Mae sgiliau ysgrifennu copi rhagorol a dawn dylunio yn hanfodol. Bydd angen i chi hefyd fod yn hyderus wrth ddefnyddio data i asesu sut mae cynnwys yn perfformio a gallu ystyried hygyrchedd ac UX wrth ddylunio cynnwys.

 

Byddwch yn gweithio fel uwch aelod o Grŵp Cynghori Strategol newydd y Cyngor sy'n arwain y sefydliadau i weithio ym maes cyfathrebu, cyfranogi a chydraddoldeb. Byddwch yn aelod allweddol o wahanol grwpiau'r prosiect. Byddwch yn gweithredu fel ein harbenigwr digidol mewnol a bydd angen sgiliau rhyngbersonol eithriadol arnoch i'ch galluogi i gynghori cydweithwyr sy'n gweithio ar bob lefel o'r sefydliad a manteisio i’r eithaf ar allu rhwydwaith mawr o olygyddion cynnwys.

 

Bydd eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy'n byw ym Mro Morgannwg. Byddwch yn gwneud gwybodaeth a gwasanaethau yn hygyrch i'r rhai sydd eu hangen fwyaf ac yn chwarae rhan bwysig mewn sefydliad sy'n newid ar gyflymder cyffrous.

 

Yn ogystal â chyfle i brofi eich sgiliau a'u datblygu, gallwn gynnig y cyfle i weithio mewn amgylchedd hwyliog, cyfeillgar a chefnogol, gyda threfniadau gweithio hyblyg a chyflog cystadleuol iawn.

 

Sut i wneud cais

I gael mwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y cyfleoedd sydd ar gael cysylltwch â Rob Jones, Rheolwr Cyfathrebu - Cyfathrebu, Cyfranogiad, Cydraddoldeb a Datblygu’r Gyfarwyddiaeth, ar 07885974098 neu rajones@valeofglamorgan.gov.uk.

 

Gwneud Cais Ar-lein