Cost of Living Support Icon

Director of Learning and Skills banner

Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles

Ydych chi'n angerddol am drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am arweinydd ymroddedig a gweledigaethol i fod yn Bennaeth nesaf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles.

 

Yn y rôl ganolog hon, byddwch yn arwain ein hymdrechion i ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth cynhwysol o ansawdd uchel, gan sicrhau y gall pob dysgwr ffynnu. Ymunwch â ni yn ein hymrwymiad i feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol lle bydd eich arweinyddiaeth yn sbarduno newid ystyrlon ac yn cael effaith barhaol ar ein cymuned.

 

Am y rôl

 

  • Proffil Rôl

    Rydym yn chwilio am arweinydd ymroddedig a gweledigaethol i ymgymryd â rôl Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles. Mae'r rôl hon yn hollbwysig wrth weithredu'r Ddeddf ADY a chefnogi disgyblion ag anghenion cymhleth, seicoleg addysgol, a gwasanaethau arbenigol. Mae cydweithio yn hollbwysig, a byddwch yn creu cysylltiadau agos â chydweithwyr ar draws y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau a meysydd eraill y Cyngor, Ysgolion a thu hwnt i sicrhau cefnogaeth gynhwysfawr i ysgolion, disgyblion a theuluoedd.

     

    Gradd: Pennaeth Gwasanaeth 

    Lleoliad: Swyddfeydd Dinesig, Y Barri a Gweithio o Bell

  • Prif Gyfrifoldebau

    • Arweinyddiaeth Strategol: Darparu arweinyddiaeth weledigaethol i ddatblygu a gweithredu cynlluniau strategol ar gyfer ADY a lles, gan gyd-fynd â gweledigaeth ac amcanion y Cyngor
    • Rheoli Gweithredol: Sicrhau darparu gwasanaethau ADY yn effeithiol a gwella'n barhaus, gan ddiwallu anghenion disgyblion a chynnal safonau uchel
    • Diogelu: Gweithredu fel Swyddog Arweiniol Dynodedig yr Awdurdod Lleol ar gyfer Diogelu mewn Addysg, gan sicrhau polisïau ac arferion diogelu cadarn
    • Cydweithio: Gweithio'n agos â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan feithrin partneriaethau i wella darparu gwasanaethau a chefnogaeth i ysgolion, disgyblion a theuluoedd
    • Arweinyddiaeth Tîm: Ysbrydoli a rheoli timau, hyrwyddo diwylliant sy'n cael ei yrru gan werthoedd a darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol
    • Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Adeiladu a chynnal perthnasoedd effeithiol gydag aelodau etholedig, uwch arweinwyr, cydweithwyr ysgol, cyrff rheoleiddio, a phartneriaid allanol
    • Gwella Gwasanaeth: Gyrru arloesedd a thrawsnewid o fewn y gyfarwyddiaeth i sicrhau gwelliant parhaus ac addasu i anghenion newidiol
  • Ymunwch â ni

    Croeso i Gyngor Bro Morgannwg, lle gallwch brofi'r cyfuniad perffaith o gydbwysedd boddhaus rhwng gwaith a bywyd a chymuned fywiog. Yng Nghyngor Bro Morgannwg, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith gwerth chweil sy'n cyd-fynd â'n gweledigaeth, ein diwylliant a'n gwerthoedd, tra bod y sir ei hun yn gefndir o harddwch naturiol, treftadaeth ddiwylliannol, a theimlad dwys o berthyn.

     

    Yn swatio ar hyd arfordir trawiadol De Cymru, mae Bro Morgannwg yn cynnig cyfuniad unigryw o harddwch naturiol, treftadaeth gyfoethog, a chymunedau bywiog. O gefn gwlad hardd i ganol y trefi prysur, mae'r rhanbarth hwn yn ymfalchïo ag ansawdd bywyd heb ei ail ac ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol.

     

    Mae ein llwyddiant fel un o awdurdodau lleol sy'n perfformio orau Cymru yn cael ei ategu gan ein hymroddiad i arloesi a thrawsnewid. Rydym yn croesawu dyfeisgarwch a chydweithio i fynd i'r afael ag anghenion a phryderon amrywiol ein cymunedau.

     

    Fel Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth Cyngor Bro Morgannwg, cewch gyfle i weithio yn un o'r ardaloedd mwyaf dymunol yn y DU, sy'n enwog am ei thirweddau trawiadol, tirnodau hanesyddol, a chyfleoedd hamdden amrywiol. Gyda milltiroedd o draethau dilychwin, amrywiaeth helaeth o barciau blaenllaw a thiroedd hamdden, a golygfa ddiwylliannol ffyniannus, mae Bro Morgannwg yn cynnig cefndir perffaith ar gyfer darparu gwasanaethau cymdogaeth o ansawdd uchel sy'n gwella llesiant a hapusrwydd ein trigolion.

     

    Fel corff cyhoeddus, rydym yn cymryd effaith hirdymor ein penderfyniadau o ddifrif. Rydym yn ystyried yn gyson sut y bydd ein gweithredoedd yn siapio'r dyfodol, gan sicrhau llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae ein Hamcanion Llesiant yn ategu'n gytûn ei gilydd, gan greu synergedd sy'n ein gyrru tuag at ddyfodol mwy disglair, mwy llewyrchus i bawb.

     

    Ymunwch â ni yn ein hymrwymiad i greu cymuned lanach, gwyrddach a mwy bywiog ar gyfer cenedlaethau i ddod. Gyda'n gwerthoedd o fod yn agored, gyda'n gilydd, uchelgeisiol a balch wrth wraidd popeth a wnawn, ni fu erioed amser gwell i fod yn rhan o'r daith drawsnewidiol sy'n digwydd ym Mro Morgannwg.

     

    Archwilio manteision gweithio i'r Cyngor

 

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i gychwyn ar daith o arloesi, cydweithio ac effaith, rydym am glywed gennych chi.

 

Ymunwch â ni i lunio dyfodol addysg ym Mro Morgannwg a gwneud gwahaniaeth ym mywydau ein dysgwyr. Gwnewch gais nawr i fod yn Bennaeth nesaf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles!

 

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 3 Gorffennaf 2024.

 

Gwneud Cais Ar-lein