Cyflogadwyedd y Fro
Yn Cyflogadwyedd y Fro, sy'n cynnwys prosiect Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru a phrosiect CELT+ y Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydym wedi ymrwymo i rymuso unigolion ym Mro Morgannwg i gyflawni eu dyheadau gyrfa a datgloi eu potensial llawn. Mae ein hystod gynhwysfawr o wasanaethau wedi'u dylunio i gefnogi ceiswyr gwaith o bob oedran a chefndir, gan gynnig y sgiliau, yr adnoddau a'r arweiniad sydd eu hangen i lywio'r dirwedd gyflogaeth yn llwyddiannus. P'un a ydych yn dymuno uwchsgilio, ailymuno â'r gweithlu, neu gychwyn ar lwybr gyrfa newydd, mae ein tîm profiadol yma i'ch cynorthwyo bob cam o'r ffordd. Dysgwch sut y gallwn eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich taith gyrfa a thrawsnewid eich dyfodol proffesiynol gyda Cyflogadwyedd y Fro. Edrychwch ar ein gwefan i ddysgu mwy am ein rhaglenni, ein straeon llwyddiant, a sut y gallwn eich cefnogi i gyflawni eich nodau cyflogaeth.