Cost of Living Support Icon

Ynglŷn â Cyflogadwyedd y Fro 

 

Mae Cyflogadwyedd y Fro yn dwyn ynghyd gryfderau Cymunedau am Waith a Mwy a CELT+ i gynnig rhaglen cymorth cyflogaeth gynhwysfawr ym Mro Morgannwg. Mae eu dull gweithredu cydweithredol yn grymuso unigolion â gwasanaethau personol, gan gynnwys ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, hyfforddiant sgiliau, cymorth gyda hunangyflogaeth a chymorth lles. Mae'r hyb canolog, Y Pod, yn cynnig mynediad cyfleus at wasanaethau hanfodol fel cymorth offer, cyrsiau hyfforddiant, ac arweiniad ariannol. Mae Cyflogadwyedd y Fro yn ymroddedig i helpu unigolion i gyflawni eu nodau cyflogaeth a ffynnu yn y gweithlu. 

CFW-Landscape-Clear

 

Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CAW+) ym Mro Morgannwg yn rhaglen cymorth cyflogaeth bwrpasol sydd wedi'i dylunio i rymuso unigolion ar eu taith tuag at gyflogaeth gynaliadwy. Ein cenhadaeth yw darparu gwasanaethau personol a chynhwysfawr sy'n mynd i'r afael ag anghenion unigryw unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth yn y gymuned leol. Trwy ddull gweithredu cydweithredol gyda chyflogwyr lleol, gwasanaethau cymorth, darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid cymunedol, mae CAW+ yn cynnig ystod o wasanaethau sydd â'r nod o wella sgiliau cyflogadwyedd, meithrin datblygiad gyrfa, a hwyluso lleoliadau gwaith.

 

Yn CAW+ yn y Fro, mae cyfranogwyr yn elwa o gymorth cyflogadwyedd personol wedi'i deilwra i'w nodau a'u dyheadau penodol. Mae ein tîm o Fentoriaid Cyflogaeth ymroddedig yn cynnig arweiniad ar ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, technegau chwilio am swydd, a hyfforddiant sgiliau. Rydym yn credu mewn sicrhau bod gan unigolion y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y farchnad swyddi gystadleuol heddiw.

 

Yn ogystal, mae CAW+ yn ymgysylltu'n weithredol â busnesau a chyflogwyr lleol i greu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon i gyfranogwyr. Trwy feithrin partneriaethau cryf o fewn y gymuned, ein nod yw cysylltu ceiswyr gwaith â chyflogwyr sy'n chwilio am unigolion talentog. Trwy ein hymdrechion ar y cyd, rydym yn ymdrechu i hyrwyddo twf economaidd, lleihau diweithdra, a grymuso unigolion i gyflawni eu dyheadau gyrfaol.

 

CELT+

 

Mae CELT+ yn cynnig gwasanaethau cyflogi ymgynghorol wedi'u teilwra a mentora personol ar gyfer unigolion sy'n wynebu tangynrychiolaeth yn y farchnad swyddi neu sy’n llywio trawsnewidiadau yn eu gyrfaoedd. P'un a ydych yn chwilio am hyfforddiant, yn ystyried llwybrau gyrfa newydd, neu'n bwriadu gwella eich cyflogadwyedd, mae CELT+ yma i helpu.

 

Mae ein cymorth yn cynnwys rhoi hwb i'ch hyder, ennill profiad gwaith ymarferol, meistroli sgiliau newydd, neu fireinio'ch CV. Yn ogystal, mae CELT+ yn cynnig cymorth gyda hawliadau budd-daliadau, materion tai/digartrefedd, rheoli costau byw, a mynd i'r afael â phryderon iechyd meddwl. 

 

Rydym yn blaenoriaethu anghenion unigol pob cleient ac yn trefnu cyfarfodydd yn ei gymuned leol er hwylustod. Ar ben hynny, os oes angen, gallwn ymestyn cymorth ariannol i gynnwys trafnidiaeth, offer angenrheidiol, neu adnoddau i hwyluso eich cynnydd tuag at eich nodau.

 

Mae'r POD yn gwasanaethu fel ein canolfan gynghori, gan gynnig lle cyfleus i drigolion/cyfranogwyr alw heibio a chael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol.

 

 

POD BAnner

 

Croeso i'r Pod

 

Y lle i gael cymorth cyflogadwyedd. Ein cenhadaeth yw eich grymuso ar eich taith tuag at gael cyflogaeth, gan sicrhau bod gennych y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y gweithlu. Mae'r POD yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau wedi'u teilwra i'ch anghenion unigol:

 

  • Paratoi ar gyfer Cyfweliadau a Threialon Gwaith A ydych chi'n teimlo'n nerfus am gyfweliad neu dreial gwaith sydd ar ddod? Mae ein tîm yma i roi cymorth personol i'ch helpu i baratoi'n effeithiol, gan roi hwb i'ch hyder a chynyddu eich siawns o lwyddo.

  • Mynediad at Offer a Dillad: Rydym yn deall pwysigrwydd cael yr offer a'r dillad cywir ar gyfer y swydd. P'un a yw'n gyfarpar, yn iwnifformau neu’n offer diogelwch, gallwn eich cynorthwyo i gael yr hyn sydd ei angen arnoch i ragori yn eich rôl newydd.

  • Cyrsiau Hyfforddiant Perthnasol: A ydych chi eisiau gwella eich sgiliau neu ystyried cyfleoedd gyrfa newydd? Rydym yn cynnig mynediad at amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant sydd wedi'u dylunio i'ch helpu i ddatblygu'n broffesiynol a symud ymlaen yn eich llwybr gyrfa dewisol.

  • Cyfeirio at Gymorth Ariannol: Gall llywio heriau ariannol wrth chwilio am waith fod yn frawychus. Gall ein tîm eich tywys tuag at yr opsiynau cymorth ariannol sydd ar gael, gan sicrhau y gallwch ganolbwyntio ar ddod o hyd i'r gyflogaeth gywir heb straen ariannol gormodol.

  • Cymorth Lles Corfforol a Meddyliol: Rydym yn cydnabod pwysigrwydd eich lles, yn y gweithle a'r tu allan iddo. P'un a oes angen cymorth arnoch ar gyfer heriau iechyd meddwl neu gymorth gyda lles corfforol, rydym yma i roi arweiniad ac adnoddau i'ch helpu i ffynnu.

  • Ni waeth ble rydych chi ar eich taith, mae'r Pod yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd. Eich llwyddiant yw ein blaenoriaeth, ac rydym yn ymroddedig i'ch helpu i gyflawni eich nodau cyflogaeth. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu – mae ein tîm yn barod i'ch cynorthwyo ar eich llwybr i lwyddiant!

 

Ein lleoliad: Y Pod, Golau Caredig, Broad Street, Y Barri CF62 7AZ