Rydym yn ceisio hyrwyddo diwylliant cynhwysol i bob aelod staff.
Felly, rydym yn eich croesawu a’ch cais waeth beth yw eich cefndir a’ch oedran; anabledd; hunaniaeth o ran rhyw; priodas neu bartneriaeth sifil; beichiogrwydd neu famolaeth; hil; lliw croen a chenedligrwydd (yn cynnwys dinasyddiaeth); tarddiad ethnig neu genedlaethol; crefydd a chred; yn cynnwys dim cred; rhyw; a chyfeiriadedd rhywiol.
Mae gennym rwydwaith LHDT+ a Chynghreiriaid ar gyfer pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a grwpiau eraill o staff rhyw a rhywedd lleiafrifol (LHDT+). Mae’n cwrdd bob mis i gynnig cymorth, cyfle i drafod problemau sy’n effeithio ar bobl LHDT+ ac adnabod ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o faterion LHDT+.
Rydym wedi arwyddo Addewid Cyflogwyr Adeg Newid ac rydym yn ymrwymo i newid sut rydym yn meddwl ac yn ymddwyn mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y gweithle a sicrhau bod cyflogeion sy’n wynebu’r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth.
Byddwn cyn hir yn datblygu grŵp arall i hyrwyddo amgylchedd gwaith cynhwysol ac amrywiol ar gyfer ystod ehangach o staff.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd.