Mae’r LTLl yn daladwy i’r un sy’n hawlio. Ni fydd dewis bellach gan y rhai sy’n hawlio o daliad uniongyrchol i’r landlord. Caiff taliadau eu gwneud yn unol â’r patrwm talu presennol os yw’r hawliad yn derbyn budd-dal ar hyn o bryd, neu ôl-daliad fesul pedair wythnos yn achos hawlydd newydd.
Bydd yn rhaid i’r tenant drefnu i dalu ei landlord. Ni fydd y Cyngor yn siarad â’r landlord ynghylch hawliad ac eithrio pan fo’r hawlydd wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i wneud hynny.
Fel rheol telir drwy BACS (trosglwyddiadau uniongyrchol i gyfrif banc), sy’n golygu na fydd oedi yn sgil y post i boeni yn ei gylch, ac ni fydd yn rhaid i’r hawlydd aros i sieciau glirio. Mae’r arian ar gael yn syth unwaith iddo gyrraedd cyfrif banc yr hawlydd.