Cost of Living Support Icon

Anabledd

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a chynnig cydraddoldeb mewn cyfleoedd cyflogaeth, yn ein gwasanaethau ac yn ein hadnoddau i bawb yn y gymuned.   

 

Rydyn ni wedi mabwysiadu model gymdeithasol anabledd yn swyddogol. Mae hon yn datgan nad yw’r gwaharddiad cymdeithasol sy’n rhan o brofiad llawer o bobl ag anabledd yn ganlyniad anochel o’u hamhariadau na’u cyflwr meddygol, ond ei fod yn tarddu o rwystrau agwedd neu’r byd o’u cwmpas.  

 

Rydyn ni’n cydnabod bod anabledd yn bodoli oherwydd bod rhwystrau’n atal pobl ag amhariad rhag chwarae rhan gyflawn yn y gymuned. 

 

Mae llawer o adnoddau ar gael eisoes, megis: 

  • Cylched clyw yn ein derbynfeydd
  • Fformatiau amgen o’n dogfennau ar gael ar alw
  • Cylchedau symudol ar gyfer cyfarfodydd  

 

Os oes angen help arnoch i fanteisio ar ein gwasanaethau e.e. Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

 

Os ydych chi wedi profi trafferth cael mynediad i’n hadeiladau neu’n gwasanaethau, cysylltwch â ni drwy C1V: 

  

 

Swimmers

Canolfannau Hamdden 

Ein nod yw gwneud canolfannau hamdden y Fro mor hygyrch â phosibl i bobl sy’n dymuno eu defnyddio

 

Pennwyd gwella mynediad i’n canolfannau hamdden i bobl ag anabledd yn brif flaenoriaeth yn ein cynllun gwella hygyrchedd. 

 

Mynediad i Bobl ag Anabledd mewn Canolfannau Hamdden 

   

Pile of books

Llyfrgelloedd 

Mae mynediad lefel is a chylchedau clyw ar gael ym mhob derbynfa

 

Mae gennym ystod o gyfarpar a chynlluniau i sicrhau bod ein llyfrgelloedd yn hygyrch i bawb: 

  • Mae cyfarpar chwyddo yn llyfrgelloedd y Barri, Penarth, y Bont-faen a Llanilltud Fawr.
  • Meddalwedd closio at y testun, sydd ar gael i’r cyhoedd ei defnyddio yn ein holl lyfrgelloedd
  • Gwasanaeth Llyfrgell Cartref
  • Mae llyfrau print bras a llyfrau llafar ar gael yn ein holl lyfrgelloedd
  • Mae sganwyr sy’n darllen testun yn glywadwy yn llyfrgelloedd y Barri, y Bont-faen a Llanilltud Fawr
  • Cynllun bibliotherapi - llyfrau ar bresgripsiwn gan eich meddyg teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill
  • DVD ag is-deitlau a sain-ddisgrifiad
  • Diwrnodau mewn cydweithrediad â Sefydliad y Deillion Caerdydd (gwefan Saesneg) yn ein llyfrgelloedd
  • Casgliad ymwybyddiaeth o fyddardod yn llyfrgelloedd y Barri, Penarth, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Dinas Powys
  • Gostyngiadau ar lyfrau llafar i bobl sydd â phroblem sylweddol â’u golwg, dyslecsia neu anabledd corfforol sy’n golygu na allan nhw ddal llyfrau. 

 

Llyfrgelloedd 

 

Trafnidiaeth Gyhoeddus 

Gwybodaeth a chanllawiau am ostyngiadau teithio a thrafnidiaeth hygyrch

 

Mae’r Cynllun Teithiau Bws Lleol yn cynnig tocynnau mantais ar gyfer teithiau yn rhad ac am ddim o fewn Cymru i bobl hŷn a phobl ag anabledd sy’n byw ym Mro Morgannwg. 

 

Trafnidiaeth Gymunedol Greenlinks   Tocynnau Mantais 

 

 

Cyflogaeth 

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli’r gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu drwy gynyddu a datblygu nifer y bobl ag anabledd rydyn ni’n eu cyflogi, a’u cynorthwyo i gadw eu swyddi  

 

Mae Canolfan Byd Gwaith wedi nodi ein bod yn cydymffurfio â gofynion eu hymgyrch i fod yn gadarnhaol wrth gyflogi pobl ag anabledd oherwydd ein bod wedi ymrwymo i’r isod hefyd:

  • Cyfweld pob ymgeisydd ag anabledd sy’n boddhau’r meini prawf mwyaf sylfaenol ar gyfer swydd
  • Gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gweithwyr sy’n datblygu anabledd yn aros ym myd gwaith
  • Sicrhau bod ein holl weithwyr yn cyrraedd lefel addas o ymwybyddiaeth o anabledd
  • Sicrhau bod gweithdrefnau yn eu lle i drafod â gweithwyr ag anabledd beth all y ddau barti ei wneud i wneud yn siŵr fod y gweithwyr rheiny’n medru datblygu a defnyddio’u sgiliau

 

Byddwn ni’n adolygu’r ymrwymiadau hyn bob blwyddyn ac yn asesu’r hyn a gyflawnwyd, yn datblygu ffyrdd o’u gwella, a rhoi gwybod i’r gweithwyr a’r Ganolfan Byd Gwaith am ein cynnydd a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

 

Os ydych chi’n unigolyn ag anabledd ac rydych chi’n cyrraedd y rhestr fer am swydd, mae gennych hawl i’r isod: 

  • Ymweliad ymlaen llaw â’r gweithle
  • Addasiadau rhesymol i’ch galluogi i gyfranogi’n llawn yn y cyfweliad