Cost of Living Support Icon

Trafnidiaeth Gymunedol Greenlinks

Mae gan Trafnidiaeth Cymunedol Greenlinks bedwar o fysus mini hygyrch, dau gyda 9 sedd a dau gyda 12 sedd, a dau car hygyrch hefyd.  

 

Diweddariad Gwasanaeth:  Mae Greenlinks yn darparu gwasanaeth; fodd bynnag, mae G1 a G4 wedi’u hatal nes yr hysbysir fel arall.  I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth llai, ffoniwch 0800 294 1113.

 

Yn dibynnu ar argaeledd y cerbyd a'r galw ymhlith teithwyr, gall ein cerbydau y mae gwirfoddolwyr yn eu gyrru fynd â chi i'r lle yr ydych eisiau teithio ar yr amser cywir. 

 

Aelodaeth Greenlinks

Drwy dalu ffi aelodaeth o £6.00, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Trafnidiaeth Cymunedol Greenlinks i wneud cais am drafnidiaeth am ddim ond £2.50 am bob taith. 

 

Sylwch nad oes gofyn i chi fod yn aelod o Greenlinks er mwyn cael mynediad at y Gwasanaethau ‘poblogaidd’ wythnosol, sef G1 a G4 (gweler isod) 

 

Llenwch ffurflen gais aelodaeth a'i dychwelyd i: 

 

Swyddog Cludiant Cymunedol

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd a Depo'r Alps

Alps Quarry Road

Gwenfô

CF5 6AA

 

Greenlinks-Community-TransportArchebu Trafnidiaeth

Er mwyn trefnu trafnidiaeth, ffoniwch y rhif rhadffôn erbyn 12.00pm, un diwrnod gwaith cyn yr ydych yn dymuno teithio (heb gynnwys gwyliau’r banc). Byddwn yn eich ffonio ar y diwrnod gwaith olaf cyn teithio i gadarnhau'r archeb a'r lleoliad y byddwn yn eich casglu ohono.

 

  • 0800 294 1113 

 

Greenlinks Fare Zones

Costau Greenlinks

Mae’r map Parthau Costau yn nodi'r holl Barthau sy’n berthnasol yn Nwyrain a Gorllewin y Fro, a'r tu allan i'r Fro. Costau teithio mewn neu ar draws barthau.

 

fares
Nifer y  ParthauSenglYn ôl
1 Parth

£2.50

£3.50

2 Barth 

£3.50

£5

3 Pharth

£5

£6

 

 

Llogi Bws

Mae bysus ar gael i’w llogi gan grwpiau. Mae’r 40 milltir cyntaf am ddim a bydd petrol yn costio 53 ceiniog y milltir wedi hynny.

 

  • Diwrnod llawn (hyd at 8 awr): £70
  • Hanner diwrnod (hyd at 4 awr):  £35
  • 0800 294 1113 

Gwasanaethau Bws Wythnosol 'Ar Gais’

Ffoniwch ymlaen llaw i wneud cais am sedd ar y gwasanaethau hyn.

 

Bydd tocynnau bws consesiynol Cymru yn cael eu derbyn ar y gwasanaethau hyn, gan alluogi i’r bobl sydd â thocynnau deithio am ddim. Mae costau plant hefyd ar gael ar y gwasanaethau hyn. Nid oes angen i chi fod yn aelod o Greenlinks i gael mynediad at y gwasanaethau bws wythnosol.  

 

Sylwch: Bydd teithwyr yn cael gwybod am eu hamseroedd casglu o leoliadau y cytunwyd arnynt un diwrnod gwaith cyn teithio.  Sylwch gall yr amser casglu amrywio a bod hyd at 10 munud yn gynnar neu 10 munud yn hwyr.

 

Gwasanaeth G1: Sain Tathan i Ben-y-bont ar Ogwr drwy'r Bont-faen a phentrefi cyfagos

Dydd Llun i ddydd Gwener 

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cysylltu ag Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae llwybrau canllaw ar gyfer pob diwrnod, ac mae’r rhain yn hyblyg yn ddibynnol ar alw.  

Gwasanaeth G4: Rhannau Gwledig y Fro i Gaerdydd 

Bob dydd Iau

Bydd y gwasanaeth dydd Iau yn cael ei gynnal ar gais i bedwar safle o amgylch Caerdydd; ardaloedd manwerthu Croes Cwrlwys, ardal fanwerthu Rhodfa’r Gorllewin, Ysbyty Athrofaol Cymru, Y Mynydd Bychan a/neu Canol Dinas Caerdydd. 

 

 

Greenlinks_Minibus_2

Gwirfoddolwyr sy'n gyrru

Mae Trafnidiaeth Cymunedol Greenlinks yn recriwtio gwirfoddolwyr ar hyn o bryd i redeg eu gwasanaeth Trafnidiaeth Gymunedol yn rhannau gwledig y Fro. 

 

Gallwn gynnig hyfforddiant am ddim, amgylchedd weithio ardderchog gydag oriau i’ch siwtio chi a chyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. 

 

 

 

 

 

Creative Rural Communities