Cost of Living Support Icon

Refeniw a godir o'r Premiwm Treth Gyngor

Yn 2023/24 roedd 807 o Gartrefi Gwag Hirdymor a 489 o eiddo wedi'u dosbarthu fel Ail Gartrefi.


Yn unol â'r Polisi Cartrefi Gwag codwyd premiwm ar 572 o eiddo yn 2023/24.


Y cyfanswm a filiwyd yn 2023/24 oedd £660k.


Mae gweithredu'r premiwm wedi galluogi adnoddau ychwanegol ar gyfer cynnwys tai cymorth yng nghyllideb y Cyngor:

 

Bydd y Cyngor yn defnyddio'r refeniw o'r Premiwm Treth Gyngor i gefnogi atal digartrefedd, trechu tlodi a phrosiectau sy'n sicrhau bod ein cymunedau'n gynaliadwy.

 

Nid yw'n ofynnol i'r symiau a godir o'r Premiwm Treth Gyngor gael eu neilltuo, ond mae'r refeniw ychwanegol ar gael ac yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r bwriad polisi i:

 

• atal digartrefedd

• cyllid ychwanegol i gefnogi gwaith gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i gefnogi cartrefi gwag

• cynyddu cartrefi fforddiadwy a dod ag eiddo gwag hirdymor nôl i ddefnydd eto

• gweithio i sicrhau bod cymunedau'n gynaliadwy

 

Nid yw gwariant yn gyfyngedig i dai, ond i dimau sydd, er enghraifft, yn cefnogi ymyrraeth gynnar, a chefnogi teuluoedd agored i niwed.