Adfer y lloches yn Cliff Hill, Penarth
Cefndir
Mae cyfle cyffrous wedi codi i adfer y lloches eiconig a ffrâm bren yn Cliff Hill, Penarth, sydd wedi mynd i gyflwr gwael. Mae'r lloches, nad yw bellach yn cael ei defnyddio fel lloches bws, yn ardal eistedd bwysig ar hyd arfordir Penarth.
Ymgynghoriad
Cynhaliwyd ymgynghoriad ym mis Mawrth 2021 ynghylch y lloches hanesyddol yn Cliff Hill, Penarth. Awgrymodd yr ymgynghoriad y gallai'r cynllun yn y dyfodol gynnwys y canlynol;
- Integreiddio celf gyhoeddus i'r lloches (e.e., darn sy'n adlewyrchu hanes y lleoliad)
- Integreiddio sain; adrodd straeon; lluniau, a/ neu oleuadau
- Cadw ac adfer cymeriad a nodweddion gwreiddiol y lloches
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Mawrth 2021. Ymatebodd 112 o bobl i'r ymgynghoriad ac roedd yn amlwg yr hoffai ymatebwyr weld y lloches yn cael ei hadfer/disodli, gydag 88.4% o'r ymatebwyr yn cytuno â chynnig y Cyngor i adfer y lloches sy'n cynrychioli mwyafrif sylweddol.
Cynhaliwyd ail ymgynghoriad "Cwrdd â'r Artist" ym mis Ionawr 2022 lle cynigiodd dros 50 o bobl adborth.
Roedd mewnwelediadau allweddol o'r ymgynghoriad yn cynnwys diddordeb mewn Gwybodaeth ac Atgofion Lleol. Awgrymwyd nifer o syniadau hefyd ar gyfer y lloches, gan gynnwys syniadau i integreiddio celf gyhoeddus i'r lloches, ac adfer y ffenestri gwreiddiol.
Penderfyniad
Felly, mae'r Cyngor wedi dyrannu £100k o arian Celf Gyhoeddus Adran 106 o Penarth Heights.
Yn dilyn tendr agored, penododd y Cyngor Aberrant Architect, cwmni amlddisgyblaethol sy'n arbenigo mewn pensaernïaeth ryngweithiol, celf gyhoeddus neu osodiadau.