Cost of Living Support Icon

Angen Tir ar gyfer Safle Sipsiwn a Theithwyr 

Gwahoddiad i Gyflwyno Safleoedd Posibl - wedi cau. 

 

Rhedodd yr ymgynghoriad hwn rhwng dydd Llun 17 Chwefror - dydd Llun 30 Mawrth 2020. Cyflwynir adroddiad i Gabinet y Cyngor maes o law.

 

Mae Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bro Morgannwg 2011 - 2026 (CDLl) yn cynnwys ymrwymiad yn y Fframwaith Monitro cymeradwy i ddod o hyd i safle addas ar gyfer sipsiwn a theithwyr i ddarparu ar gyfer yr angen a nodwyd yn Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr y Cyngor 2016.


Felly, mae’r Cyngor yn ‘Galw’ am gynigion ar gyfer safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr ac yn gwahodd datblygwyr, perchnogion tir a phartïon eraill â diddordeb i enwebu tir i’w ddefnyddio fel safle sipsiwn a theithwyr.


Bydd y ‘Galw' am safleoedd ar agor o ddydd Llun 17 Chwefror 2020 tan 5pm Ddydd Llun 30 Mawrth 2020.


Bydd pob safle a gyflwynir yn destun asesiad er mwyn penderfynu a all fodloni gofynion y polisi cynllunio ac a ellir ei gyflawni, er enghraifft, o ystyried cyfyngiadau corfforol ac amgylcheddol, a gofynion seilwaith a mynediad. Mae'r fethodoleg asesu safleoedd a gynigir ar gael i’w lawrlwytho.


Dylid nodi nad yw cyflwyno safle yn rhoi unrhyw statws ar y safle. Ni fydd y Cyngor yn ystyried defnydd arall ar gyfer safleoedd a gyflwynir, dim ond ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr.


Bydd y safleoedd a gynigir yn cael eu rhoi ar gofrestr safleoedd a fydd ar gael i'r cyhoedd maes o law.


Dylid cynnig safleoedd ar y Ffurflen Cynnig Safle. Mae copïau papur o'r ffurflen ar gael o Swyddfa Doc y Cyngor yn y Barri.

 

Ffurflen Galwad Safleoedd 


Rhaid i bob safle a gynigir fod o leiaf 0.5 hectar o arwynebedd a rhaid cyflwyno Cynllun Arolwg Ordnans clir ar raddfa briodol (e.e. 1:1250, 1:2500).Dylid dychwelyd y ffurflenni wedi eu cwblhau erbyn dydd Llun 30 Mawrth 2020 i:


Y Tîm CDLl,Swyddfa’r DociauDociau’r BarriY BarriCF63 4RT

 

NEU

 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â thîm y CDLl ar:

 

  • 01446 700111