Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rydym yn gwneud hyn drwy gymharu ein perfformiad dros amser a chydag eraill. Mae hyn yn ein galluogi i nodi camau gweithredu i'w gwella, nodi a lleihau risgiau i achosi gwelliant gwasanaeth a chyflawni canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.
Mae proses rheoli perfformiad effeithiol yn darparu systemau rheoli a diwylliant trefniadol sy'n canoblwyntio ar welliant parhaus drwy wybod ble rydym, yr hyn y mae angen inni ei gyflawni a sut i fesur ein cynnydd, dod o hyd i broblemau perfformiad a darparu opsiynau i'w gwella.
Mae Rheolaeth Perfformiad yn darparu llawer o fuddion:
Mae'r ddogfen ar y Broses Rheoli Perfformiad yn amlinelllu mecanweithiau’r Cyngor ar gyfer monitro, mesur ac asesu ei berfformiad. Yn gysylltiedig â’r ddogfen hon yw cylch cynllunio blynyddol sy'n nodi'r gweithgareddau perfformiad allweddol a fydd yn cael eu cwblhau'r flwyddyn ariannol honno.
Fel rhan o’i adolygiad o’i Fframwaith Rheoli Perfformiad yn 2020, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Corfforaethol (2020-25) newydd sy’n adlewyrchu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn nodi 4 Canlyniad Llesiant. Caiff y Cynllun Corfforaethol ei fonitro bob tri mis gan Adroddiad Perfformiad Iechyd Corfforaethol cyffredinol a chaiff ei ategu gan adroddiadau perfformiad bob tri mis penodol ar gyfer pob un o’r pedwar Amcan Llesiant. Mae cyfrifoldebau’r Pwyllgorau Craffu wedi’u hail-alinio gyda’r Canlyniadau Llesiant sydd yn y Cynllun Corfforaethol gydag adroddiadau ar berfformiad yn y Cyngor yn adlewyrchu’r trefniadau hyn. Bydd yr agwedd newydd yn galluogi’r Aelodau i ganolbwyntio ar graffu ar y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyflawni Canlyniadau Llesiant y Cyngor.
Mae nifer o Ddangosyddion Perfformiad (DPau) wedi’u cytuno gan y Cyngor ar lefel gymunedol (Dangosyddion y Boblogaeth) ac ar lefel leol (DPau Lleol) i helpu i ddangos yn well gynnydd o ran cyflawni ein Canlyniadau Llesiant. Mae’r rhain yn creu Fframwaith Mesurau Perfformiad Corfforaethol (MPC) y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cyfrannu at ddangosyddion y boblogaeth trwy ei waith, ond, nid yw’n gyfan gwbl gyfrifol amdanynt a bydd cyflawni gwelliant o ran y dangosyddion hyn yn cynnwys ystod eang o sefydliadau yn gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol. Ar lefel leol, mae ein DPau yn ein helpu i ddeall pa mor dda rydym yn darparu ein gwasanaeth a’n gweithgareddau ac yn canolbwyntio ar a yw cwsmeriaid yn fwy ffodus o ganlyniad i’r hyn rydym yn ei wneud.
Mae adroddiadau perfformiad wedi’u llunio i’w gwneud hi’n haws i asesu cynnydd cyffredinol mewn perthynas â phob Canlyniad ac Amcan Llesiant, tra’n parhau i roi gwybodaeth ategol fanwl sy’n ymwneud â gweithrediadau a dangosyddion. Adroddir ar y rhain bob tri mis i Bwyllgorau Craffu a’r Cabinet.
Mae dyletswydd ar y Cyngor i gymharu ei berfformiad dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac mae wedi casglu setiau data Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus a rhai statudol yn ogystal ag adrodd arnynt ar gyfer 2017/18. Mae hefyd wedi ymrwymo i gasglu data ar gyfer y set arfaethedig o fesurau ar gyfer 2020/21.