Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) mae BGC Bro Morgannwg wedi cynnal asesiad llesiant lleol ledled y Fro ac yn ei chymunedau. Mae BGC Bro Morgannwg wedi cytuno y bydd asesiad y Fro yn canolbwyntio ar gymunedau'r Barri, Dwyrain y Fro a Gorllewin y Fro. Mae’r asesiad yn ystyried llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Bro Morgannwg yn ei chyfanrwydd ac yn ein cymunedau a chaiff ei ddefnyddio i lywio Cynllun Llesiant y BGC, a gaiff ei ddatblygu erbyn mis Mai 2018.
Mae’r asesiad yn adnodd gwerthfawr a fydd yn llywio’r gwaith ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus i wella llesiant lleol ac o ran helpu darparwyr gwasanaethau i ddeall mwy am yr hyn sy’n bwysig i’n cymunedau lleol a’r berthynas rhwng gwahanol wasanaethau.
Mae’r asesiad yn ystyried amrywiaeth o ddata a gwybodaeth am y Fro sy'n seiliedig amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys y set data cyffredin a luniwyd gan yr Uned Data Llywodraeth Leol i gynorthwyo BGC i gyflawni’r ymarfer.
Yn ogystal â’r data a gwybodaeth, mae’r asesiad yn defnyddio canlyniadau ystod eang o waith ymgysylltu ac ymgynghori a gyflawnwyd gan bartneriaid y BGC. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau gwaith ymgysylltu ac ymgynghori blaenorol yn ogystal â chanlyniadau ein hymgyrch ymgysylltu - 'Amser Siarad'. Mae hyn wedi cynnwys cyfres o arolygon, grwpiau ffocws a gweithdai ac mae adroddiad yn seiliedig ar ganlyniadau’r gwaith ymgysylltu wedi’i gyhoeddi ar y cyd â'r asesiad. Bydd y drafodaeth ynghylch llesiant yn ymarfer parhaus a bydd yr ymgysylltu yn parhau drwy ddatblygiad y Cynllun Llesiant.
Mae’r Asesiad Llesiant ac ystod o ddogfennau ategol ar gael isod. Mae hyn yn cynnwys crynodeb gweithredol, proffiliau cymuned a rhestr o’r adborth sydd wedi dod i law a'r newidiadau a wnaed yn dilyn yr ymgynghoriad ar yr asesiad drafft.
Caiff yr asesiad ei lansio a'i gyhoeddi'n ffurfiol ym mis Mai 2017 ynghyd â rhagor o fanylion o'r gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer y Cynllun Llesiant.