Mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch. Rhaid gwneud unrhyw geisiadau o'r fath yn ysgrifenedig i'n Huned Rhyddid Gwybodaeth.
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:
Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.
Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â gofyniad cyfreithiol sydd arnom.
Uned Rhyddid Gwybodaeth
Cyngor Bro Morgannwg,
Swyddfeydd Dinesig,
Heol Holltwn,
Y Barri,
CF63 4RU.
Cyfeiriad e-bost: FoiUnit@valeofglamorgan.gov.uk
Mae gan y Cyngor Hysbysiad Preifatrwydd cyffredinol sy'n nodi'n gyffredinol sut mae'n rheoli gwybodaeth bersonol, a gellir gweld copi o'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn naill ai ar ei wefan neu gallwch gael copi drwy gysylltu â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth drwy e-bost. DPO@valeofglamorgan.gov.uk