Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

Hysbysiad o Gyfarfod    PWYLLGOR CYNLLUNIO WEDI’I AILYMGYNNULL

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                    DYDD IAU, 21 MAWRTH, 2024 AM 4.00 P.M.

 

Lleoliad                         CYFARFOD HYBRID

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor (gan gynnwys datganiadau chwipio).

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

DS: Gofynnir i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno siarad ar unrhyw gais Cynllunio isod gofrestru i siarad drwy wefan Cyngor y Fro erbyn 5.00 p.m. fan bellaf. ar y Sul cyn dyddiad y cyfarfod ac ystyried Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor a Chyfranogiad y Cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor

 

Adroddiadau’r Pennaeth Datblygu Cynaliadwy –

Planning Reports

[Gweld Adroddiadau Cynllunio]

[Gweld Cynlluniau a Mapiau

[Gweld Materion yn Codi]

[Gweld Materion Ychwanegol yn Codi]

Rhif Tudalen

3.         Ceisiadau Cynllunio:

[Gweld Cofnod]

 

            2020/01170/OUT

[Gweld Cofnod]

Tir ar Fferm Cosmeston Uchaf, Lavernock Road, Penarth

1

            2023/00032/FUL

[Gweld Cofnod]

Cyfleuster Ynni Adnewyddadwy Biomas y Barri, David Davies Road, Y Barri

79

            2023/00033/FUL

[Gweld Cofnod]

Tir i'r Gogledd o Gyfleuster Ynni Adnewyddadwy Biomas y Barri, David Davies Road, Y Barri

130

            2023/00895/FUL

[Gweld Cofnod]

Great House Farm, Penllyn

156

 

4.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

5.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

14 Mawrth, 2024

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi

M. Thomas (01446) 709279

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio

Cadeirydd: Cynghorydd N.C. Thomas;

Is-gadeirydd: Cynghorydd S.D. Perkes;

Y Cynghorwyr: G. Bruce, I. Buckley, C.A. Cave, C.E.A. Champion, C.M. Cowpe, P. Drake, A.M. Ernest, W. Gilligan, N.P. Hodges, Dr. I.J. Johnson, H.M. Payne, I.A.N. Perry, C. Stallard, E. Williams ac M.R. Wilson.

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e. o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod

 

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709279

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx