Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o’r Cyfarfod     CABINET

 

Dyddiad ac Amser

y Cyfarfod                       DYDD IAU, 18 GORFFENNAF, 2024 AM 2.00 P.M.

 

Lleoliad                          CYFARFOD HYBRID

 

AGENDA

 

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad a Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

Cyfeiriadau -

3.       “Arfau Craffu Effeithiol” Gweithdy(iau) Aelodau Etholedig – Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, 1 Gorffennaf, 2024.

4.       Diweddariad ar y Platfform Cyfarfod Hybrid – Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Eithriadol – 16 Gorffennaf, 2024.  (Gweld Cyfeiriad)

 

Adroddiadau’r Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

5.       Cau Cyfrifon 2023/24.

6.       Cau Cyfrifon Cyfalaf 2023/24.

7.       Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24.

8.       Strategaeth Ariannol 2025/26 i 2029/30.

9.       Diweddariad Blynyddol y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol.

10.     Cais i'w Gydnabod yn Sir Noddfa.

11.     Ail-lunio: Cyflawni Adfywio Seiliedig ar Leoedd: Llywodraethu Rhaglenni a Phrosiectau Strategol a Ffyrdd o Weithio.

 

Adroddiad yr Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy

12.     Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) Bro Morgannwg.

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu -

13.     Lloches Gerddi Eidalaidd - I Roi Prydles Atodol, i'r Brydles Bresennol Rhwng y Cyngor a Coffi Co.

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid –

14.     Gwaredu Parseli o Dir sy'n Perchnogaeth Tai Sydd Heb Ddefnydd Dichonol ar gyfer Tai Cyhoeddus.

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol ac Iechyd –

15.     Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol: 2023/2024.

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltiad Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol -

16.     Dewch i Siarad Am Fywyd yn y Fro – Adolygiad o Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd.

 

17.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).

           (i)     Adroddiad y Cyfarfod - 

                     Penodi Panel Ymgynghorol Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol: 10 Gorffennaf, 2024

 

RHAN II

 

EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

18.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

10 Gorffennaf, 2024

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -

Archwilio papurau cefndirol:

Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i

M. Swindell Ffôn: 01446 709479.

E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Cabinet – 

Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Adnoddau)

Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)

Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)

Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

Y Cynghorydd S.D. Perkes (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid)

Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)

Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)

Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri,  yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx