Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o’r Cyfarfod      CABINET

 

Dyddiad ac Amser

y Cyfarfod                        DYDD IAU, 11 GORFFENNAF, 2024 AM 2.00 P.M.

 

Lleoliad                           CYFARFOD HYBRID

 

AGENDA

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2024.

 

3.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad a Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

Cyfeiriadau -

4.       Datblygu Cynllun Corfforaethol 2025-2030, Asesiad Perfformiad y Panel a Chalendr Perfformiad Blynyddol 2024/25 – Pwyllgor Craffu Cartrefi a Chymunedau Diogel: 12 Mehefin, 2024.

5.       Datblygu Cynllun Corfforaethol 2025-2030, Asesiad Perfformiad y Panel a Chalendr Perfformiad Blynyddol 2024/25 – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 17 Mehefin, 2024.

6.       Datblygu Cynllun Corfforaethol 2025-2030, Asesiad Perfformiad y Panel a Chalendr Perfformiad Blynyddol 2024/25 – Pwyllgor Craffu yr Amglychedd ac Adfywio: 18 Mehefin, 2024.

7.       Datblygu Cynllun Corfforaethol 2025-2030, Asesiad Perfformiad y Panel a Chalendr Perfformiad Blynyddol 2024/25 – Pwyllgor Craffu Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau: 19 Mehefin, 2024.

8.       Datblygu Cynllun Corfforaethol 2025-2030, Asesiad Perfformiad y Panel a Chalendr Perfformiad Blynyddol 2024/25 – Pwyllgor Craffu Dysgu a Diwylliant: 27 Mehefin, 2024 (Gweld Cyfeiriad).

9.       Defnyddio Gwybodaeth Perfformiad: Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth a Chanlyniadau – Cyngor Bro Morgannwg - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 17 Mehefin, 2024.

10.     Diweddariad Ch4: Amserlen Rhaglen Waith Archwilio Cymru 2023/24 – Cyngor Bro Morgannwg - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 17 Mehefin, 2024.

11.     Cyflwyno Deiseb – Goruchwylwyr Croesfannau Ysgol – Pwyllgor Craffu yr Amglychedd ac Adfywio: 18 Mehefin, 2024.

12.     Adroddiad Diweddaru Prosiect Sero – Pwyllgor Craffu yr Amglychedd ac Adfywio: 18 Mehefin, 2024.

13.     Adroddiad Diweddaru Prosiect Sero - Pwyllgor Craffu Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau: 19 Mehefin, 2024.

14.     Diweddariad ar Strategaeth y Bobl - Pwyllgor Craffu Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau: 19 Mehefin, 2024.

 

Adroddiad y Cyfarfod –

15.     Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd – 29 Ebrill, 2024.

 

Adroddiadau’r Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

16.     Rhaglenni Gwaith Chwarterol y Cabinet – Ebrill i Fehefin 2024 a Gorffennaf i Medi 2024.

17.     Defnyddio Pwerau Argyfwng y Prif Weithredwr.

 

Adroddiad yr Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy

18.     Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT).

 

Adroddiadau’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg –

19.     Diweddariad ar yr Ymgynghoriad ar y Cynnig i Greu Canolfan Adnoddau Arbenigol Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant o fis Medi 2024.

20.     Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2023-24.

 

Adroddiadau’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu –

21.     Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Parhaol – Cau Stryd Ysgol Heol Dryden, Penarth.

22.     Adnewyddu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n Gysylltiedig ag Alcohol.

23.     Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheolaethau Cŵn.

 

Adroddiadau’r Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol ac Iechyd –

24.     Ail-gomisiynu'r Ddarpariaeth o Ofal Plant ar gyfer Dechrau'n Deg yn Colcot, y Barri, Bro Morgannwg.

25.     Contract ar gyfer Darparu Gofal Plant ar gyfer Dechrau'n Deg yn Nhregatwg, y Barri, Bro Morgannwg.

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltiad Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol -

26.     Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Bro Morgannwg 2021-2036.

 

27.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

28.     Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

 

5 Gorffennaf, 2024

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -

Archwilio papurau cefndirol:

Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i

M. Swindell Ffôn: 01446 709479.

E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Cabinet – 

Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Adnoddau)

Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)

Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)

Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

Y Cynghorydd S.D. Perkes (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid)

Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)

Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)

Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri,  yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx