Gaf i weld y Gofrestr Etholwyr?
Mae copi papur o’r Gofrestr Etholwyr ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU o dan oruchwyliaeth rhwng 09:00-16:30 dydd Llun tan ddydd Iau ac o 09:00-16:00 ddydd Gwener.
Mae’r gofrestr wedi’i threfnu yn ôl dosbarth pleidleisio ac mae enwau’r etholwyr yn ymddangos yn eu strydoedd yn nhrefn y wyddor. Gan nad yw’n bosibl chwilio’r gofrestr yn ôl cyfenw mae’n anodd iawn i ddod o hyd i rywun os nad ydych yn gwybod ble mae'n byw ym Mro Morgannwg.
Mae copi papur o’r Gofrestr Etholiadol hefyd ar gael i’r cyhoedd yn eich Llyfrgell leol. Mae copïau llyfrgelloedd ond yn cynnwys rhestr Dosbarth Etholiadol yr ardal honno.
Caiff copi newydd o'r Gofrestr Etholwyr, ei chreu ar gyfer derbynfa'r Swyddfeydd Dinesig, bob mis Rhagfyr.