Cost of Living Support Icon

Y Gofrestr Agored

Arferai hon gael ei galw’n gofrestr wedi'i golygu. Mae'r Gofrestr Agored yn ddetholiad o'r Gofrestr Etholiadol, ond nid yw'n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau.

 

Gall unrhyw un, unrhyw gwmni neu sefydliad, ei phrynu. Er enghraifft, mae’n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enwau a chyfeiriadau.

 

Caiff eich enw a’ch cyfeiriad eu cynnwys yn y Gofrestr Agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt gael eu dileu. Gelwi hyn yn optio allan.

 

Nid yw dileu'ch manylion o'r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio. 

 

  • Os bydd rhywun yn prynu’r Gofrestr Agored pa wybodaeth y bydd yn ei derbyn?

     

    Bydd y wybodaeth y bydd yn ei derbyn yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’r ardal bleidleisio rydych yn byw ynddo.

     

    Ni fydd yn derbyn eich Dyddiad Geni, eich Rhif Yswiriant Gwladol nac unrhyw fanylion cyswllt yr ydych wedi’u darparu wrth gofrestru ar gyfer y Gofrestr Etholiadol.

  • Sut gallaf i brynu’r Gofrestr Agored?

    Bydd yn rhaid i chi gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Etholiadol i wneud cais.

     

    Sylwer, oherwydd rheolau Gwarchod Data, ni allwn drafod unrhyw unigolion sydd ar y gofrestr rydych wedi’i phrynu.

  • Sut y caiff y Gofrestr Agored ei defnyddio?

     
    • Busnesau wrth wirio pwy yw pobl a'u cyfeiriadau pan fyddant yn gwneud cais am eu gwasanaethau er enghraifft ym meysydd yswiriant, hur nwyddau a rhentu eiddo, ac wrth iddynt siopa ar-lein 

    • Busnesau’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u cyfyngu o ran oedran, fel alcohol a gamblo ar-lein, er   mwyn cydymffurfio â rheolau gwirio oedran eu cwsmeriaid

    • Elusennau ac asiantaethau gwirfoddol eraill, er enghraifft er mwyn helpu i gynnal gwybodaeth manylion cysylltu'r sawl sydd wedi dewis rhoi mêr esgyrn ac i helpu pobl a wahanwyd drwy fabwysiadu i ddod o hyd i'w gilydd

    • Elusennau; i helpu gyda chodi arian a chysylltu â phobl sydd wedi gwneud rhoddion

    • Asiantaethau casglu dyledion wrth olrhain pobl sydd wedi newid cyfeiriad heb ddweud wrth eu credydwyr

    • Cwmnïau Marchnata Uniongyrchol wrth gynnal eu rhestrau postio

    • Landlordiaid ac asiantau gosod wrth wirio pwy yw eu tenantiaid posibl

    • Cynghorau lleol wrth adnabod a chysylltu â thrigolion

    • Cwmnïau cyfeiriadau ar-lein i helpu defnyddwyr gwefannau i ddod o hyd i bobl, er enghraifft wrth ddod â ffrindiau a theuluoedd at ei gilydd eto 

    • Cyrff wrth olrhain a nodi buddiolwyr ewyllysiau, pensiynau a pholisïau yswiriant

    • Cwmnïau sector preifat wrth wirio manylion ymgeiswyr am swyddi  

 

 

Ffruflen Optio Allan Ar-lein