Cost of Living Support Icon

Pleidleisiau Post - Etholiadau Llywodraeth Leol a'r Senedd neu Etholiadau Datganoledig

Mae dyletswydd arnom i gael llofnod newydd gan bleidleiswyr trwy’r post bob pum mlynedd i sicrhau bod gennym lofnod cyfredol.  

 

Y ffurflen adolygu pleidlais bost nesaf fydd dydd Gwener 24 Ionawr 2025

 

Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd y defnyddir eich llofnod mewn etholiadau wrth fwrw eich pleidlais.

 

Adnewyddu Pleidlais Bost

Os yw’r llofnod sydd gennym yn ein ffeil yn 5 mlwydd oed neu'n hyn, byddwn yn anfon ffurflen atoch a elwir yn Adolygiad Pleidlais Bost.    

  • Adolygiad Pleidlais Bost yn dechrau: Dydd Gwener 24 Ionawr 2025.

  • Nodyn Atgoffa: Dydd Gwener 14 Chwefror 2025.

  • Dyddiad cau i ymateb – Dydd Gwener, 7 Mawrth 2025

 

 

  • Pam rydych chi wedi derbyn Adolygaid Pleidlais Bost?

    Byddwch yn derbyn ffurflen Adolygu Pleidlais Bost os yw’n bum mlynedd neu fwy ers i chi roi copi o’ch llofnod i ni fel y gallech bleidleisio drwy’r post.

     

    Os hoffech chi barhau i dderbyn pleidlais bost, mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen adolygu a’i dychwelyd atom erbyn dydd Gwener 7 Mawrth 2025 fan bellaf.

     

    Os nad ydym wedi derbyn eich ffurflen adolygu wedi’i llenwi erbyn dydd Gwener 7 Mawrth 2025, ni fyddwch yn gallu pleidleisio drwy’r post yn yr etholiadau neu’r refferenda y mae gennych hawl i bleidleisio ynddynt.

       

    Mae hyn oherwydd y byddwn yn canslo pleidleisiau post nesaf ddydd Llun 10 Mawrth 2025.

  • Beth sydd wedi'i gynnwys ar eich ffurflen adolygu pleidlais bost?

    Bydd y ffurflen adolygu’n dweud wrthych pa fathau o etholiad y mae gennych hawl i bleidleisio ynddynt ar hyn o bryd.

     

    Bydd hefyd yn cynnwys eich dyddiad geni ac yn gofyn i chi gadarnhau a yw’n gywir.

    Bydd angen i chi roi llofnod newydd.

     

    Bydd adran hefyd i esbonio beth i’w wneud os na allwch lenwi’r ffurflen adolygu.

     

  • Beth os nad ydych yn gallu llofnodi mwyach neu os nad ydych yn gallu darllen nac ysgrifennu? 

    Bydd angen i chi ofyn am ffurflen hepgor gennym ni ond gall unrhyw un eich helpu i'w llenwi.

     

    Mae adran ar y ffurflen Adolygu Pleidlais Bost y gallwch chi roi tic ynddi a fydd yn dweud wrthym fod angen ffurflen hepgor arnoch chi. Dylech ddychwelyd hon i ni a byddwn yn anfon ffurflen hepgor atoch.

     

    Neu gallwch ffonio ni yn eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol. Gweler y botwm Cysylltu â Ni ar ddiwedd y dudalen hon.

     

    Os caniateir hepgoriad, byddwn ond yn hepgor y llofnod a bydd yn rhaid i chi roi’ch dyddiad geni i ni o hyd.

     

  • Beth arall y mae’n rhaid i mi ei wybod? 

    Os nad ydych yn dychwelyd eich ffurflen adolygu erbyn dydd Gwener 7 Mawrth 2025 ac mae eich pleidlais bost yn cael ei chanslo, nid yw hyn yn eich atal rhag gwneud cais eto am bleidlais bost. 

     

    Os ydych am wneud cais eto, dylech lenwi Ffurflen Cais am Bleidlais Bost a’i dychwelyd atom.

     

    Ceir copi electronig o’r Ffurflen Cais am Bleidlais Bost ar ein gwe-dudalen Ceisiadau a Hepgor trwy glicio ar y botwm isod:

     

    Ffurflenni Cais

     

    Os oes gennych bleidlais bost, ni chewch bleidleisio’n ffisegol yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Fodd bynnag, gallwch fynd â’ch papur pleidleisio i’r orsaf bleidleisio yn hytrach na'i rhoi yn y blwch post.

 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bleidleisio drwy'r post yn Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Pleidleisio drwy'r post - Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

 

    Cysylltu â ni