Cost of Living Support Icon

Pleidleisiau post - Etholiadau Seneddol y DU ac mewn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu neu Etholiadau ‘a Gedwir yn Ôl’

 

Bydd angen i chi bellach adnewyddu eich pleidlais bost ar gyfer yr etholiadau hyn bob 3 blynedd.  

 

Byddwn yn ysgrifennu at etholwyr y mae'n ofynnol iddynt wneud cais eto,

rhwng mis Mawrth 2025 a mis Ionawr 2026.

 

Mae'n bwysig iawn eich bod yn adnewyddu eich pleidlais bost, os ydych am barhau i bleidleisio drwy'r post yn Etholiadau Seneddol y DU ac mewn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. 

 

Gallwch gwblhau cais am bleidlais bost newydd ar-lein ar unrhyw adeg.

 

Cais am Bleidlais Bost Newydd

 

Adnewyddu pleidlais bost

Os yw’r llofnod sydd gennym yn ein ffeil yn 5 mlwydd oed neu'n hŷn, byddwn yn anfon ffurflen atoch a elwir yn llythyr Adnewyddu Pleidlais Bost

 

  • Beth sydd ar eich Ffurflen Hysbysiad Cadarnhau Pleidlais drwy’r Post?    

     

    Bydd y ffurflen yn dweud wrthych pa fathau o etholiad y mae gennych hawl i bleidleisio ynddynt ar hyn o bryd.

     

    Bydd yn eich cynghori i fynd i Gov.uk i gwblhau cais newydd.

     

    Bydd cais papur hefyd wedi'i gynnwys y gallwch ei ddefnyddio os na allwch fynd ar-lein.

     

    Fel rhan o'r cais, bydd angen i chi roi eich llofnod, eich dyddiad geni a’ch rhif yswiriant gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, er enghraifft pasbort.

  • Beth os nad ydych yn gallu llofnodi mwyach neu os nad ydych yn gallu darllen nac ysgrifennu?  

     

     

    Bydd angen i chi ofyn am ffurflen hepgor gennym.   

     

    Bydd angen i chi lenwi hon a’i hanfon atom a byddwn yn anfon ffurflen gais atoch. 

     

    Neu gallwch ffonio ni yn eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.   

     

    Gweler y botwm Cysylltu â Ni ar ddiwedd y dudalen hon.   

     

    Os caniateir hepgoriad, byddwn ond yn hepgor y llofnod a bydd yn rhaid i chi roi’ch dyddiad geni i ni o hyd.  



 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Llywodraeth Leol a’r Senedd.

 

Pleidleisio drwy'r Post - Etholiadau Llywodraeth Leol a Senedd

 

 

 


Cysylltu â ni