Cost of Living Support Icon

Gwasanaethau Etholiadol

Gwybodaeth a chanllawiau am wasanaethau etholiadol ym Mro Morgannwg. 

 

1:  Etholiadau a Refferenda

Paratoi ar gyfer bwrw pleidlais.

 

A wyddech  chi?

Fod sawl math gwahanol o etholiad:

  • Cyffredinol/Senedd San Steffan
  • Senedd Ewrop
  • Senedd Cymru
  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Refferendwm
  • Is-Etholiad Cynghorau Sir neu Dref/Cymuned
  • Llywodraeth Leol

Mae pob Etholiad yn rhoi cyfle i chi bleidleisio dros berson neu blaid wleidyddol a fydd yn gwneud newidiadau cadarnhaol a fydd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd.

 

Mae pob Refferendwm yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ar gwestiwn penodol.

 

I’ch helpu i ddweud eich dweud, byddwn yn:

  • anfon cardiau pleidleisio at bob preswylydd sydd wedi cofrestru a chanddo hawl i bleidleisio;
  • cyhoeddi unrhyw hysbysiadau perthnasol er mwyn i chi fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd
  • anfon papurau pleidleisio at bob etholwr sydd wedi gwneud cais am bleidlais bost
  • trefnu’r gorsafoedd pleidleisio a staff yr orsaf
  • cyfri’r pleidleisiau wedi’r Diwrnod Pleidleisio a chyhoeddi'r canlyniadau
  • sicrhau y cynhelir y broses etholiad/refferendwm yn deg ac yn ddidwyll yn ôl y safonau a osodir gan y Comisiwn Etholiadol. Y Comisiwn Etholiadol yw’r sefydliad sy’n monitro ein perfformiad.

 

 

2: Cofrestr Etholwyr

Sicrhau eich bod arni.

 

A wyddech  chi?

Ei bod hi’n syniad da bod ar y Gofrestr Etholiadol am fod hynny’n helpu â:

  • cheisiadau am forgais
  • contractau ffonau symudol
  • ceisiadau am fenthyciad
  • cael eich galw ar gyfer Gwasanaeth y Rheithgor
  • statws/sgôr credyd
  • gallu pleidleisio

Mae’n rhaid i ni oll fod ar y gofrestr yn ôl y gyfraith ond eich dewis chi yw pleidleisio.

 

Byddwn yn gwneud y canlynol er mwyn diweddaru’r Gofrestr Etholiadol:

  • gall unrhyw un sy'n dymuno pleidleisio ond na all fynd i orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais fwrw pleidlais drwy'r post neu trwy rywun arall.  Pleidleisio drwy ddirprwy yw hyn.
  • sicrhau nad yw pobl ar y gofrestr ddwywaith trwy gamgymeriad;
  • tynnu enwau pobl sydd wedi symud o Fro Morgannwg neu sydd wedi marw oddi ar y gofrestr
  • optio pobl allan o’r Gofrestr Agored os ydynt yn gofyn i ni wneud hynny.
  • sicrhau bod pob eiddo ym Mro Morgannwg ar y gofrestr ac ychwanegu unrhyw eiddo newydd
  • gwirio sillafiadau a manylion fel bod y gofrestr yn gyflawn a chywir.

3: Canfasio Blynyddol

Cysylltu â chi er mwyn i chi wybod y diweddaraf.

 

A wyddech  chi?

Mae Swyddfa’r Cabinet yn gofyn i ni gysylltu â'ch eiddo bob blwyddyn i gadarnhau eich gwybodaeth/statws Cofrestr Etholwyr.

 

Dylech roi gwybod i ni os ydych:

  • yn symud cartref
  • yn symud i lety myfyrwyr
  • yn optio i mewn/allan o’r Gofrestr Agored
  • yn newid eich enw
  • yn 76 oed neu hŷn
  • am newid eich dull pleidleisio.

Ni fyddwn yn gwybod os na ddwedwch wrthym felly peidiwch ag oedi cyn ffonio i wirio!

 

I’ch helpu i wybod y diweddaraf, byddwn:

  • Anfon ffurflen gyfathrebu flynyddol at bob eiddo ym Mro Morgannwg, ac yna'n anfon nodyn atgoffa at y rhai sy'n gorfod ymateb
  • Diweddaru’r gofrestr yn ôl y ffurflenni a ddychwelir
  • anfon ein swyddog ymweld neu aelod o’r tîm canfasio i unrhyw gartref nad yw wedi ymateb i’r ffurflen ymholi
  • cyhoeddi’r gofrestr newydd wedi ei diweddaru bob mis Rhagfyr.

4: Gorsafoedd Pleidleisio

Lle a Sut y gallwch bleidleisio.

 

A wyddech  chi?

Mae 101 gorsaf bleidleisio trwy Fro Morgannwg yn eich galluogi i bleidleisio yno’n bersonol.

Gallwch hefyd bleidleisio trwy’r dulliau canlynol:

  • Post
  • Dirprwy (rhywun arall yn pleidleisio ar eich rhan) 

Byddwn yn gwerthuso’r gorsafoedd pleidleisio bob 5 mlynedd i sicrhau eu bod:

  • yn hygyrch i bawb
  • yn ddiogel ac mewn cyflwr da
  • yn hawdd dod o hyd iddynt.

 

 

  • Oes gennyf hawl i gofrestru?

    I fod ar y Gofrestr Etholiadol, mae’n rhaid i chi fod:

    • Oed 14, canedlaethol tramor sy'n preswylion gyfreithiol. 
    • Yn Ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu Wlad yn yr Undeb Ewropeaidd.
    • Preswylio yn y DU ar adeg gwneud y cais.

     

  • Pwy na chaiff bleidleisio?

    Ni chewch chi bleidleisio os ydych:

    • Cenedlaethol tramor nad yw wedi'i gofrestru'n gyfreithiol
    • yn plentyn dan 14
    • yn berson wedi derbyn euogfarn ac yn y carchar, y ddalfa neu mewn ysbyty meddwl,  yn berson sydd wedi eich cael yn euog o ymarferion twyllodrus neu anghyfreithlon penodol.

     

  • Sut ydw i’n cofrestru ar y Gofrestr Etholiadol?

      

    Sut Mae Cofrestru

      

  • Ydw i wedi cofrestru yn barod?

    Gallwch holi trwy ffonio 01446 729 552 neu e-bostio: electoralregistration@valeofglamorgan.gov.uk

    Mae copi caled o’r gofrestr ar gael i’w archwilio yn y Brif Dderbynfa yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU.

  • Pa dystiolaeth y gallaf ei chyflwyno i asiantaethau credyd i brofi fy mod ar y Gofrestr Etholiadol?

     

    Pan gewch eich gwirio i fod ar y Gofrestr Etholiadol, cewch lythyr cadarnhau gan y Swyddfa Gofrestru Etholiadol. Mae hyn yn dystiolaeth eich bod wedi eich ychwanegu at y Gofrestr Etholiadol yn ddiweddar a chaiff ei greu yn awtomatig o’r system gais.

     

    Gallwch hefyd ofyn am Dystysgrif Cofrestru gan y Swyddfa Gofrestru Etholiadol a fydd yn nodi’r dyddiad y cawsoch eich ychwanegu at y Gofrestr Etholiadol gyntaf. Mae hyn yn brawf eich bod wedi bod ar y Gofrestr Etholiadol am gyfnod penodol o amser.

     

  • Rwy’n aelod o’r Lluoedd Arfog. Sut rydw i’n cofrestru?

    Rwy’n was y Goron neu’n gyflogai gyda’r Cyngor Prydeinig.  Ydw i’n gallu cofrestru?

    Gallwch wneud cais fel pleidleisiwr nad yw yn y lluoedd arfog os oes gennych gyfeiriad cartref parhaol yn y DU ac rydych am iddo fod ar y gofrestr etholiadol.

     

    Cofrestru i Bleidleisio

     

     

    Neu os nad oes gennych gyfeiriad cartref parhaol yn y DU ac rydych yn aelod o’r lluoedd arfog neu’n briod neu’n bartner sifil i rywun yn y lluoedd arfog, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr sy’n gwasanaethu.

     

    GOV.UK - Cofrestru i Bleidleisio (Lluoedd Arfog)

     

     

    Os ydych yn debygol o gael eich anfon dramor fel:

    • gwas y Goron (er enghraifft, gwasanaeth diplomyddol neu wasanaeth sifil dramor)
    • cyflogai gyda’r Cyngor Prydeinig*
    • priod neu
    • bartner sifil i was y Goron neu gyflogai gyda’r Cyngor Prydeinig

      

     

     

    Cofrestru i Bleidleisio

     

      

    *Mae cyflogeion y Cyngor Prydeinig yn cynnwys:

    • Y Cyngor Prydeinig
    • Swyddfa’r Cabinet
    • Gwasanaeth Erlyn y Goron
    • Grŵp Cymorth Amddiffyn
    • Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau
    • Adran Addysg
    • Adran Datblygiad Rhyngwladol
    • Adran Trafnidiaeth
    • Adran Ynni a’r Newid yn yr Hinsawdd
    • Adran Iechyd
    • Gwasanaethau’r FCO
    • Asiantaeth Safonau Bwyd
    • Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad
    • Trysorlys EM
    • Gweinyddiaeth Amddiffyn
    • Gweinyddiaeth y Gyfraith
    • Llywodraeth yr Alban

     

     

     

  • Rwy’n ddinesydd Prydeinig ac rwy’n byw dramor.  Ydw i’n gallu cofrestru?

    Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr dramor am hyd at 15 mlynedd ar ôl gadael y DU ar yr amod isod:

     

    Rydych chi’n ddinesydd Prydeinig

     

    • Roeddech chi
    • wedi’ch cofrestru i bleidleisio yn y DU yn y 15 mlynedd blaenorol

     

    Bydd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad bob blwyddyn. 

     

     

    Cofrestru i Bleidleisio

     

       

  • Sut gallaf i gofrestru os nad oes cyfeiriad sefydlog gennyf?

     

    Os ydych chi’n ddigartref, gallwch chi bleidleisio o hyd hyd yn oed os nad oes cyfeiriad sefydlog gennych.  Cysylltwch â ni a gallwn roi’r ffurflen berthnasol i chi.  Mae’r ffurflen yn gofyn i chi nodi cyfeiriad lle rydych am gael eich cofrestru.  Gall hyn fod unrhyw le yn ardal yr awdurdod lleol lle rydych yn treulio rhan sylweddol o’ch amser neu le mae gennych ryw gysylltiad â hi, e.e. cyfeiriad parhaol blaenorol, lloches neu fainc mewn parc.  Byddwch yn cael eich neilltuo i orsaf bleidleisio ger y cyfeiriad hwn lle gallwch chi bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.  Bydd y ffurflen hefyd yn gofyn am gyfeiriad lle gellir anfon gohebiaeth a cherdyn pleidleisio i chi, neu gallwch chi ddewis casglu hyn gan eich awdurdod lleol.

     

    Cysylltu â Ni

  • Beth sydd angen i mi ei wneud os ydw i’n symud tŷ?

    Wedi i chi symud, cofrestrwch ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio gan nodi eich cyfeiriad newydd.  Bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi a ydych wedi byw yn unrhyw le arall dros y 12 mis diwethaf. Rhowch eich hen gyfeiriad yr ydych newydd ei adael.

     

    Dyna’r cwbl sydd angen i chi ei wneud.  Bydd y system yn dweud wrthym eich bod wedi symud.

    Os ydych wedi symud o Fro Morgannwg, bydd yn rhoi gwybod i ni ac i’ch awdurdod lleol newydd.

 

  • Rwyf i dros 76 oed, a ydw i’n dal i fod yn gymwys ar gyfer Gwasanaeth y Rheithgor?

    Na, dydych chi ddim yn gymwys. Pan rowch eich dyddiad geni, byddwn yn diweddaru ein system i ddangos a ydych chi’n 76 oed neu’n hŷn. Ni chewch eich dewis pan fydd hyn wedi ei ddiweddaru ar y gofrestr.

     

  • Beth yw’r Gofrestr Agored?

    Ewch i wefan y Gofrestr Agored am ragor o wybodaeth, trwy glicio ar y botwm isod.

     

    Cofrestr Agored 

     

  • Rwy’n ceisio dod o hyd i berthynas i mi ym Mro Morgannwg, all y Swyddfa Gofrestru Etholiadol fy helpu?

    Os ydych yn ffonio’r swyddfa, ni fydd modd i ni roi gwybodaeth i chi am bobl eraill oherwydd nad yw hynny’n cydymffurfio â’n polisi Diogelu Data.  Fodd bynnag, mae copi papur o’r Gofrestr Etholwyr lawn gyfredol yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU.

     

     

    Mae’r gofrestr etholiad ar gael i’r cyoedd ei harchwilio dan oruchwyliaeth trwy apwyntiad yn unig, cysyllwtch a ni ar 01446 709748 neu e-bostiwch electoralregistration@valeofglamorgan.gov.uk i archebu. 

     

    Mae’r ddogfen wedi ei threfnu yn ôl ardaloedd pleidleisio ac mae enwau etholwyr (pobl) yn ymddangos fesul stryd, ill dau yn nhrefn yr wyddor.  Oherwydd nad oes cyfleuster chwilio am gyfenw, mae’n anodd iawn dod o hyd i rywun os nad ydych yn gwybod ym mhle mae’n byw ym Mro Morgannwg.

     

    Byddwch yn ymwybodol na fydd modd i chi lungopïo na thynnu llun o unrhyw ran o’r gofrestr.

      

  • A allaf gofrestru’n ddienw?
     

    Gallwch chi gofrestru i bleidleisio’n ddienw.  Yn lle nodi eich enw a’ch cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol, caiff côd ei ychwanegu at y gofrestr.

    Gallwch chi ofyn i gofrestru’n ddienw os byddai eich diogelwch chi (neu ddiogelwch rhywun yn yr un aelwyd â chi) mewn perygl petai eich enw a’ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol.  Er enghraifft, os ydych yn dianc o drais neu mae gennych swydd sy’n eich rhoi mewn perygl o niwed gan bobl eraill.  

    I gofrestru’n ddienw, mae’n rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o orchymyn llys neu ardystiad gan berson awdurdodedig i gefnogi’ch cais.

    I gofrestru i bleidleisio’n ddienw, cysylltwch â ni.

     

    Cysylltu â Ni

 

Terms

Pleidleisiwr  Absennol

Pleidleisiwr Absennol yw rhywun sy’n pleidleisio ond ddim yn bersonol yn yr Orsaf Bleidleisio.

Felly, maent un ai yn:

1) Pleidleisio trwy’r post

2) Pleidleisio trwy ddirprwy (mae’n anfon rhywun i’r orsaf bleidleisio ar ei ran)  

3) Pleidleisio trwy ddirprwy-post (mae’n enwebu rhywun i gwblhau ei bleidlais post drosto)

Canfasio

Mae’r term Canfasio’n
disgrifio proses rydym yn ei defnyddio i gysylltu â phobl yn eu cartrefi. Rydym yn targedu cartrefi
nad ydynt yn ymateb ac yn anfon aelod staff yn y gobaith y cawn siarad â’r sawl
sy’n byw yno. Mae dyletswydd arnom i sicrhau bod pawb yn cael dewis pleidleisio os yw
am wneud hynny. Weithiau mae hyn yn anodd oherwydd na chawn newydd gan bobl neu mae pobl
wedi symud ac wedi anghofio cofrestru. Felly, rydym yn ymweld â chartrefi yn ogystal ag anfon llythyrau.

Etholiad

Proses lle mae (etholwyr) yn ethol (dewis) person neu grŵp o bobl i swydd swyddogol yw etholiad. 

 

Etholwr  Etholwr yw person sydd â’r hawl i bleidleisio mewn etholiad.
Cofrestr
Etholwyr

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus.

                                                                                                                                                      

Ffurflen gyfathrebu canfasio

Anfonir dau fath o ffurflenni cyfathrebu canfasio allan yn flynyddol.

CCF A - Mae hon yn ffurflen werdd er gwybodaeth yn unig a dim ond os yw'r wybodaeth yn anghywir y bydd angen ymateb

CCF B - os ydych yn derbyn y ffurflen binc hon, nid ydym yn siŵr a yw'r wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd yn gyfredol. Felly, mae angen ymateb.

CEU

Mae’r byrfodd yn golygu Cofrestru Etholiadol Unigol. Dyma’r enw a roddir ar y system cofrestru pleidleiswyr.  Bellach, dan y system Cofrestru Etholiadol Unigol, rhaid i bawb gofrestru yn unigol yn hytrach na fel aelwyd.

CEU GD Golyga hyn y Gwasanaeth
Digidol ar gyfer Cofrestru Etholiadol Unigol. Dyma’r enw a roddir i’r
gwasanaeth sy’n cynorthwyo’r broses o wirio ymgeiswyr os ydynt wedi gwneud cais
ar-lein neu trwy ddull arall, wrth wirio eu manylion personol o’u cymharu â’r
cronfeydd data cenedlaethol ac anfon y canlyniadau’n ôl at y Swyddfa Gofrestru
Etholiadol.
 Ffurflen GiG Mae’r talfyriad ar gyfer Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru. Dyma’r ffurflen gais sydd angen i chi ei chwblhau er mwyn eich ychwanegu at y Gofrestr Etholwyr.
 Cofrestr Agored  

Arferid galw’r Gofrestr Agored yn Gofrestr Olygedig.

Rhan o’r Gofrestr Etholwyr yw hon y gall unrhyw berson neu sefydliad ei phrynu at ddibenion marchnata.
 Optio Allan Mae’r term Optio allan yn dod o’r term Opsiwn. Mae Optio allan yn golygu y gallwch optio (dewis) i ddod allan o rywbeth. Yn yr achos hwn, gallwch ddewis tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored, sef y gofrestr y gellir ei phrynu at ddibenion marchnata.
 Drwy’r Post Mae Drwy’r Post yn derm sy’n disgrifio pleidlais rhywun a dderbynnir trwy’r post h.y. Pleidlais Drwy’r Post.
 Dirprwy Mae Dirprwy yn ffordd arall o ddweud ‘cynrychioli rhywun arall’. Er enghraifft, os ydych chi am i rywun arall fwrw pleidlais ar eich rhan, byddai hwnnw’n eich cynrychioli. Felly byddai’n ddirprwy i chi. 
Ildiad Os ydych am bleidleisio trwy’r post neu drwy ddirprwy os na allwch lofnodi oherwydd anabledd neu os nad ydych yn gallu darllen neu ysgrifennu, gallwch wneud cais am ildiad.

 

 

Cysylltu â Ni