Cost of Living Support Icon

Iechyd a Lles yn Eich Lleoliad

Iechyd a lles gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant

Bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant: safonau, canllawiau a chynllunio bwydlenni 

 

Cyhoeddwyd y Canllawiau Arfer Gorau Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant diweddaraf ym mis Tachwedd 2018 i gymryd lle’r ‘Canllawiau Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant’ blaenorol. Gallwch eu gweld ar-lein. Mae ar gael ar-lein ac mae wedi'i rannu'n adrannau, gan ei gwneud yn hawdd ei ddarllen. Mae hefyd yn cynnwys cannoedd o ryseitiau iach.


Canllawiau bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant

 

Bwydlenni a ryseitiau

Safon Aur Byrbrydau Iach

bigstock-Stickman-Illustration-of-Kids--82408712

 

Mae Safon Aur Byrbrydau Iach Caerdydd a’r Fro yn agored i feithrinfeydd dydd, grwpiau Dechrau’n Deg, cylchoedd chwarae, meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a chlybiau ar ôl ysgol. Gallwch ennill y wobr drwy gynnig byrbrydau a diodydd iach a thrwy fodloni’r canllawiau ar hylendid a’r amgylchedd bwyta.

 

Os bydd grŵp ag aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant mewn maeth yn bodloni’r meini prawf hwn, gall ennill y wobr ‘Aur +’. 

 

Caiff y wobr ei goruchwylio gan y Tîm Dieteg Iechyd Cyhoeddus a’i chefnogi gan grŵp gweithredu amlddisgyblaethol.  Mae gwaith y gwobrau byrbrydau yn cyd-fynd â Chynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Llywodraeth Cymru. 

 

Safon Aur Byrbrydau Iach

Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Lit-169793882

Nod y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy yw hyrwyddo iechyd plant oed cyn ysgol, eu teuluoedd a’u gofalwyr.   Mae’r cynllun yn cysylltu â phlant ifanc drwy’r sefydliadau gofal plant maent yn eu mynychu, gyda’r nod o annog ymddygiadau cadarnhaol tuag at iechyd mewn plant o oedran cynnar iawn.

 

Mae llawer o arferion iechyd yn cael eu sefydlu o oedran cynnar, gan wneud yr amgylchedd blynyddoedd cynnar yn adeg ddelfrydol i ddylanwadu ar iechyd plentyn. Mae gan ymarferwyr blynyddoedd cynnar botensial i ddylanwadau ar iechyd a lles plant yn eu gofal i raddau helaeth, ac mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yn eu helpu i wneud hyn.

 

Ysgolion Iach

 

Cynllun Cynaliadwy Meithrinfeydd Iach- Caerdydd a'r Fro BIP

Hylendid y Geg

bigstock-Illustration-of-Kids-Brushing--30300485

Mae Cynllun Gwên yn rhaglen wella genedlaethol iechyd y geg ar gyfer plant yng Nghymru. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei lansio yn 2009. Mae pob gwasanaeth Cynllun Gwên a phob triniaeth ddeintyddol y GIG i blant AM DDIM.

 

Gall Cynllun Gwên ddarparu sesiynau hyfforddi i staff, rhoi adnoddau i annog iechyd a hylendid y geg, a hyd yn oed helpu i ddod o hyd i wasanaethau deintyddol i deuluoedd rydych yn eu cefnogi!

 

Cysylltwch â'ch tîm Cynllun Gwên lleol i gael mwy o wybodaeth neu i drefnu sesiwn

Pob Plentyn yng Nghymru

Exercise Children BigStock

Mae gan pob plentyn yng Nghymru yr hawl i’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd ac i’w helpu ar hyd y ffordd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Pob Plentyn Cymru.

 

Mae’r wefan yn llawn syniadau i’ch helpu i roi dyfodol iach a hapus i’r plant rydych yn gofalu amdanynt.

 

Pob Plentyn yng Nghymru

 

Diogelu Iechyd mewn Lleoliadau Plant a Phobl Ifanc   

Muddy Puddles BigStock

Canllaw ymarferol ar gyfer staff ar reoli achosion o glefydau heintus mewn lleoliadau plant a phobl ifanc.

 

 

bigstock-Illustration-of-Stickman-Kids--47768488

Iechyd Amgylcheddol 

 

Os ydych ond yn darparu’r lefelau canlynol o wasanaeth bwyd yn rhan o’ch busnes arferol, mae’n bosibl na fydd angen i chi gofrestru fel gweithredydd busnes bwyd.

1.    Darparu dŵr yfed o’r prif gyflenwad yn unig.

2.    Darparu llestri a chyllyll a ffyrc i blant eu defnyddio i fwyta eu pecynnau bwyd eu hunain.

3.    Storio pecynnau bwyd sy’n eiddo i’r plant mewn man oer.

4.    Helpu’r plant o bryd i’w gilydd i dorri eu bwyd eu hunain yn ôl yr angen yn hytrach na fel gwasanaeth arferol.

5.    Darparu bwyd o bryd i’w gilydd nad yw’n rhan o’r gwasanaeth arferol (e.e. cacen i ddathlu pen-blwydd plentyn neu fwyd pan fydd rhiant/gwarcheidwad yn hwyr).

6.    Gweithredu yng nghartref y plentyn a gweini bwyd y rhiant/gwarcheidwad i’r plentyn e.e. nanis neu ofalwyr plant yn y cartref. 

Os ydych yn darparu unrhyw fyrbrydau, prydau a/neu ddiodydd heblaw am ddŵr yfed o’r prif gyflenwad, bydd angen i chi gofrestru gydag Iechyd yr Amgylchedd fel Gweithredydd Busnes Bwyd.

 

Mae cofrestru ac archwiliadau yn syml iawn. Cysylltwch â:

Canolfan Gyswllt Un Fro 01446 700111

 

Cofrestru Busnes Bwyd

 

 

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd 

Illustration of fruit and vegDan reoliadau’r UE, rhaid i bob busnes bwyd roi gwybodaeth am gynhwysion alergenig sydd yn ei fwyd. Os ydych yn darparu bwyd yn rhan o’ch busnes, yna bydd angen i chi sicrhau bod gennych wybodaeth am bob un o’r 14 prif alergen sy’n cael eu defnyddio mewn cynhwysion unrhyw fwyd. Nodwch NAD oes angen rhestrau cynhwysion llawn.

 

Bydd Iechyd yr Amgylchedd yn defnyddio dull synnwyr cyffredin o ran sut rydych yn cydymffurfio â’r rheoliad. Gobeithiwn y bydd y camau canlynol yn helpu, ond cofiwch fynd i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Canllaw ar Alergenau i’r Diwydiant

 

 

    • Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r 14 prif alergen mewn bwyd. Ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd mae hyfforddiant ar-lein a phosteri/taflenni y gallwch eu hargraffu a’u harddangos. Mae poster ‘anoddefiad-alergeddau’, ‘Gwybodaeth-alergenau’ a ‘Meddyliwch am Alergedd’ yn enghreifftiau arbennig o dda.

    • Sicrhewch eich bod yn cadw a chofnodi unrhyw wybodaeth am alergedd pan fydd plentyn yn dechrau yn y sefydliad fel y gallwch ddiweddaru’r wybodaeth yn ôl yr angen. I blant sydd ag alergedd, gallech gwblhau ‘Cardiau Rysáit i’r Cogydd’ er mwyn naill ai eu rhoi ar yr oergell i’ch atgoffa neu eu cadw’n ddiogel yn eich bag os byddwch yn bwyta allan.

    • Dylech ystyried creu bwydlen wythnosol ‘sampl’ syml neu gadw nodiadau o brydau a byrbrydau rydych yn debygol o’u darparu. Ychwanegwch y llinell ‘Mae croeso i chi ofyn i mi am unrhyw gynhwysion a ddefnyddir’.

    • Darllenwch labeli cynhwysion yr holl fwyd rydych yn eu defnyddio bob tro er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i bob plentyn yn eich gofal.

    • Pwysleisiwch yr angen am wybodaeth alergaidd neu ddietegol ar eich Polisi Bwyd sy’n cynnwys rhestr o’r 14 prif alergen a bod angen i rieni eich diweddaru.

    • Er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth da o hylendid a diogelwch bwyd, dylech gwblhau cwrs Hyfforddiant Diogelwch Bwyd Bro Morgannwg a glynu wrth arweiniad 14 Hydref Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Anghenion Ychwanegol / Y Mynegai 

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Nur-108275411

Y Mynegai yw cofrestr wirfoddol Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol.

Os ydych yn weithiwr proffesiynol, gallwch gofrestru gyda’r Mynegai i gael y diweddaraf am wasanaethau, cymorth a gweithgareddau ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Nod y Mynegai yw rhoi gwybodaeth i deuluoedd, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau drwy negeseuon e-bost rheolaidd, eNewyddion y Mynegai yn ogystal â’r cylchlythyr chwarterol sy’n cael ei lunio cyn gwyliau’r ysgol.

 

Gall rhiant, gofalwr neu weithiwr proffesiynol gofrestru plentyn neu berson ifanc gyda’r Mynegai os ydyw:

-      yn iau na 18 oed

-      wedi cael diagnosis o anabledd, yn y broses o gael diagnosis neu ag anghenion ychwanegol

 

Gallwch gofrestru plentyn neu berson ifanc drwy Ffurflen Gofrestru Ar-lein y Mynegai neu gallwch argraffu’r ffurflen.

 

Y Mynegai

 

 

Cysylltwch â ni:

  • 01446 704704
  • fis@valeofglamorgan.gov.uk