Cost of Living Support Icon

Cymorth i dalu am ofal plant

Cymorth ariannol er mwyn fforddio costau gofal plant

Efallai y bydd gofal plant yn ymddangos yn ddrud, ond efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gyda chostau gofal plant os ydych yn defnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), megis nanis a gymeradwywyd dan Gynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref AGC.

 

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell y Llywodraeth i ddod o hyd i faint y gallech ei gael tuag at ofal plant cofrestredig neu gymeradwy:

 

Cyfrifiannell Gofal Plant- GOV.UK

 

Gallwch ymweld â'r wefan 'Dewisiadau Gofal Plant' i ddod o hyd i'r opsiynau sydd ar gael i chi:

 

Dewisiadau Gofal Plant

 

  • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

    Gallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o’ch plant, i helpu gyda chostau gofal plant. Mae hyn yn codi i £1,000 bob 3 mis os yw plentyn yn anabl (hyd at £4,000 y flwyddyn).

     

    Os ydych yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, byddwch yn creu cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 y byddwch yn ei dalu i’r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2 i’w ddefnyddio i dalu’ch darparwr.

     

    You can get Tax-Free Childcare at the same time as The Childcare Offer for Wales if you’re eligible for both.

     

    Gallwch ei ddefnyddio i dalu am ofal plant cymeradwy, er enghraifft:

    • gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a nanis

    • clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae

     

    Mae’n rhaid i’ch darparwr gofal plant gofrestru ar gyfer y cynllun cyn y gallwch ei dalu ac elwa o Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Gwiriwch gyda’ch darparwr i weld a yw wedi cofrestru.

     

     

    Gallwch ddefnyddio’r arian Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ychwanegol a gewch i helpu i dalu am oriau ychwanegol o ofal plant. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i helpu i dalu’ch darparwr gofal plant fel y gallant gael offer arbenigol ar gyfer eich plentyn fel cymhorthion symud. Siaradwch â nhw am ba offer y gall eich plentyn ei gael.

     

     

    I gael rhagor o wybodaeth a’r meini prawf cymhwysedd:

    Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth (Gov.UK)

  • Cynnig Gofal Plant Cymru

    Mae'r Cynnig Gofal Plant yn ariannu addysg feithrin a gofal plant i blant 3 i 4 oed, cyn iddynt ddechrau addysg llawn amser. Ym Mro Morgannwg, mae'n cynnwys 12.5 awr yr wythnos mewn meithrinfa ysgol a 17.5 awr yr wythnos mewn darparwr gofal plant cofrestredig yn ystod y tymor. Hyd at 30 awr yr wythnos ar gyfer darparwr gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol, ar gyfer tair wythnos fesul tymor (cyfanswm o 9 wythnos y flwyddyn). Cyfanswm o 48 wythnos o ofal plant wedi'i ariannu y flwyddyn.

     

    I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Cynnig Gofal Plant Bro Morgannwg:

     

     

    Cynnig Gofal Plant Cymru

  • Y Cynnig Gofal Plant ar gyfer Plant 2 Oed (Dechrau’n Deg)

    Mae'r cynnig gofal plant ar gyfer plant 2 oed yn cynnwys 12.5 awr o ofal plant yr wythnos yn ystod y tymor.  Bydd plant yn gymwys ar gyfer y cynnig o’r tymor ar ôl eu hail ben-blwydd tan y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Gellir cynnig gofal plant mewn Lleoliadau Dechrau'n Deg, a gyda lleoliadau gofal plant preifat sydd wedi'u cofrestru i ddarparu'r cynnig gofal plant 2 oed. 

     

    I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Dechrau’n Deg Bro Morgannwg:

     

     

    Gofal Plant Dechrau’n Deg

  • Elfen Gofal Plant Credyd Cynhwysol 

    Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i'ch helpu gyda'ch costau byw. Efallai y byddwch yn gallu ei gael os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu’n methu â gweithio.

     

    Os ydych yn talu am ofal plant tra byddwch yn mynd i'r gwaith, gall Credyd Cynhwysol dalu rhywfaint o'ch costau gofal plant. Mae hyn yn cynnwys clybiau gwyliau, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau brecwast. Os ydych yn byw gyda phartner, mae angen i'r ddau ohonoch fod yn gweithio, a chymryd bod gan eich partner y gallu i ofalu am eich plant.

     

    Gall hyd at 85% o'r costau gofal plant gael eu had-dalu yn ôl i chi.

     

    Efallai y byddwch yn gallu cael help gan y Gronfa Cymorth Hyblyg os oes rhaid i chi dalu costau gofal plant ymlaen llaw a bod un o'r canlynol yn berthnasol:

    • rydych chi'n dechrau gwaith

    • rydych chi’n cynyddu'r oriau rydych chi'n eu gweithio, er enghraifft rydych chi wedi symud o waith rhan amser i waith llawn amser

     

    I gael rhagor o wybodaeth:

     

     

     

     

     

     

     

     

     

    Credyd Cynhwysol (Gov.UK)

  • Cyllid Myfyrwyr – Addysg Bellach

    Os ydych dros 19 oed, efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd dysgu. Mae'r rhan fwyaf o golegau addysg bellach yn cynnig dysgu am ddim neu am bris gostyngol i’r canlynol:

    • dysgwyr o deuluoedd incwm isel

    • dysgwyr anabl

    • dysgwyr ar fudd-daliadau

     

     

     

     

     

     

    Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. 

     

    Efallai y byddwch yn gallu cael help gyda chost gofal plant tra byddwch yn astudio. Cysylltwch â'ch ysgol neu goleg i gael rhagor o wybodaeth.

     

     

    Cyllid Myfyrwyr: Addysg Bellach (LLYW.CYMRU)

  • Cyllid Myfyrwyr – Addysg Uwch

    Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gallu cael gwerth hyd at 85% o’ch costau gofal plant tuag at gost gofal plant cofrestredig neu gymeradwy.  

     

    Gallwch wneud cais am y grant gofal plant yn yr amgylchiadau canlynol:

    • mae gennych o leiaf un plentyn dan 15 oed sy'n dibynnu arnoch yn ariannol, neu dan 17 oed os oes ganddo anghenion addysgol arbennig

    • rydych chi’n defnyddio darparwr gofal plant sydd wedi'i gofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

    • rydych chi’n mynychu cwrs llawn amser neu ran amser (gan gynnwys cwrs dysgu o bell) ac yn cael cyllid myfyrwyr israddedig sy'n dibynnu ar incwm eich cartref.

     

    Ni allwch wneud cais yn yr amgylchiadau canlynol:

    • rydych chi’n hawlio elfen gofal plant Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith

    • rydych chi’n cael gofal plant sy’n rhydd o dreth gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi

    • rydych chi’n talu perthynas yn unig i ofalu am eich plentyn

    • rydych chi neu eich partner yn cael arian gan y GIG.

     

     

     

    I gael rhagor o wybodaeth:

    Cyllid Myfyrwyr Cymru

 

 

Plant sydd ag anghenion ychwanegol

 

Fel rhiant neu ofalwr plentyn ag anghenion cymorth ychwanegol, mae'n gwbl ddealladwy y gallai fod gennych bethau ychwanegol i'w hystyried.

 

  • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth 

    Os yw eich plentyn yn anabl, gallwch ddefnyddio'r arian Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ychwanegol a gewch i helpu i dalu am oriau ychwanegol o ofal plant.  Gallwch hefyd ei ddefnyddio i helpu i dalu eich darparwr gofal plant fel y gallant gael offer arbenigol ar gyfer eich plentyn fel cymhorthion symudedd. Siaradwch â nhw am ba offer y gall eich plentyn ei gael. 

     

    Os yw eich plentyn yn anabl ac fel arfer yn byw gyda chi, efallai y cewch hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed. Mae’n gymwys ar gyfer hyn os yw:

    • yn cael Lwfans Byw i'r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol, Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog, Taliad Anabledd Plant (yr Alban yn unig) neu Daliad Anabledd Oedolion (yr Alban yn unig)

    • wedi’i ardystio’n ddall neu ag amhariad difrifol ar ei olwg

     

    I gael rhagor o wybodaeth:

     

    Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth (Gov.UK)

  • Cynnig Gofal Plant Cymru

    Y Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant 3 i 4 oed – Er mwyn sicrhau bod elfen gofal plant y Cynnig yn gynhwysol i blant cymwys sydd angen cymorth ychwanegol, mae cymorth ar gael drwy ffrwd ariannu ar wahân o'r enw Grant Cymorth Ychwanegol Cynnig Gofal Plant Cymru.

     

    I gael rhagor o wybodaeth:

    Cynnig Gofal Plant Cymru

     

    I ddarllen canllawiau llawn y Grant Cymorth Ychwanegol, ewch i:

    Grant Cymorth Anghenion Ychwanegol

  • Cynllun Cymorth Gofal Plant â Ffocws

    Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig Cynllun Cymorth Gofal Plant â Ffocws ar gyfer plant sydd ag angen ychwanegol sy'n dod i'r amlwg a/neu ddiagnosis yn ymwneud â hynny, neu blentyn sydd mewn perygl o fod yn ynysig.

     

    I gael rhagor o wybodaeth:

     

     

    Cynllun Cymorth Gofal Plant â Ffocws

 

  

Cymorth ariannol pellach i rieni

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cymorth ariannol i rieni gan gynnwys grantiau a budd-daliadau, cymorth gyda gwisg ysgol a mentrau i deuluoedd. 

 

Costau Byw

 

Grant Hanfodion Ysgol

 

Cymorth ariannol os oes gennych blant (Gov.uk)

 

 

bigstock-Illustration-of-Stickman-Kids--82572575

Angen Gofal Plant?

Efallai y bydd angen gofal plant arnoch i ofalu am eich plentyn cyn ac ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae gofal plant hyblyg ar gael. 

 

Efallai y bydd ysgol eich plentyn yn cynnal clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol ac mae gwarchodwyr plant ar gael i ollwng a chasglu o ysgolion.  

 

Ewch i’n tudalen Dewis Gofal Plant i gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael:


Dewis Gofal Plant

 

Neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol am eich anghenion gofal plant drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein. Bydd yr holl ddata'n cael ei gadw’n unol â rheoliadau diogelu data, fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg. 

 

 

Ffurflen Ymholiadau Ar-lein