Cost of Living Support Icon

 

 

Telecare Logo

Teleofal

Eich helpu chi a'ch anwyliaid i fyw'n fwy annibynnol a diogel gartref.

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer preswylwyr agored i niwed. Mae ein dyfeisiau wedi'u cysylltu â chanolfan fonitro 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn yn y Barri. Beth bynnag yw'r rheswm – p’un a ydych chi'n clywed sŵn yng nghanol y nos, yn cael damwain neu ddigwyddiad yn y cartref, neu'n cael argyfwng meddygol – bydd y gweithredwr yn trefnu cymorth cyn gynted â phosibl.

 

 

 

Mae cymryd y cam cyntaf gyda theleofal yn hawdd

Dilynwch y camau syml isod i ddechrau'r broses gyda theleofal:

 

Telecare Stage 1

Dewiswch y cynllun rydych chi ei eisiau

Dylai hwn fod yn gynllun sy'n diwallu eich anghenion.

Telecare Stage 2

Byddwn yn siarad â chi

Bydd ein staff profiadol yn trafod eich dewis ac yn awgrymu unrhyw newidiadau y maen nhw'n ei deimlo sy’n berthnasol i'ch anghenion.

Telecare Stage 3

Eich offer

Bydd ein staff yn trefnu apwyntiad ac yn dod i osod eich holl offer.

Telecare Stage 4

Cael eich cysylltu â'r gwasanaeth

Ar ôl gosod yr offer, byddwn yn dangos i chi sut mae'r gwasanaeth a'r offer yn gweithio ac yn eich cysylltu â'n canolfan fonitro 24/7/365.

 

 

Opsiynau ar gyfer eich cynllun

Mae gennym bedwar cynllun i ddewis ohonynt:

 

Vale Telecare Essential

Teleofal y Fro – Hanfodol

£5.76 yr wythnos (heb gynnwys TAW) 

 

 

Vale Telecare Bronze

Teleofal y Fro – Efydd

£6.51 yr wythnos (heb gynnwys TAW)

 

Vale Telecare Silver

Teleofal y Fro – Arian

£7.68 y wythnos (heb gynnwys TAW)  

 

Vale Telecare Gold

Teleofal y Fro – Aur

£8.32 yr wythnos (heb gynnwys TAW) 

 

 

 

Cysylltwch â ni heddiw

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn teleofal ac yn hoffi cael gwybod mwy, cysylltwch drwy ffonio 01446 700111 neu drwy anfon e-bost at teleofal@valeofglamorgan.gov.uk. Gallwch hefyd lenwi ffurflen ymholiad am deleofal:

 

 

 

Unrhyw gwestiynau am sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?

Atebion i rai o'r cwestiynau cyffredin ynglŷn â theleofal:

 

 

  • A allaf ddiffodd fy larwm?

    Na, rhaid gadael eich uned larwm wedi'i phlygio i mewn ac ymlaen 24 awr y dydd. Os bydd eich larwm yn cael ei ddiffodd yn ddamweiniol, bydd y ganolfan fonitro yn cael gwybod a bydd yn eich ffonio i ofyn i chi ei ailgysylltu.

  • A allaf wisgo fy motwm yn y bath neu'r gawod?

    Mae'r botwm yn dal dŵr, a gallwch ei wisgo yn y gawod, ond dylech osgoi ei drochi mewn dŵr mewn bath. Dylech ei gadw o fewn cyrraedd hawdd i'ch bath rhag ofn y bydd ei angen arnoch.

  • Beth dylwn i ei wneud pan fydd fy ymatebwr allweddol yn mynd ar wyliau?

    Rhowch wybod i ni os ydych yn gwybod bod eich ymatebwyr allweddol yn mynd i ffwrdd, fel y gallwn wneud trefniadau eraill gyda chi.

  • Rwy'n mynd i ffwrdd – a oes angen i mi roi gwybod ichi?

    Oes, rhowch wybod i ni os ydych yn mynd i ffwrdd er mwyn i ni allu diwygio ein cofnodion a rhoi cyngor i chi ynghylch diffodd yr uned.

  • Beth dylwn i ei wneud os byddaf yn pwyso'r botwm yn ddamweiniol?

    Peidiwch â phoeni pan fydd eich larwm yn canu'n ddamweiniol; nid oes ots gennym dderbyn galwadau sy'n cael eu gwneud yn ddamweiniol. Bydd hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i chi pan fyddwch yn gweld pa mor gyflym rydym yn ymateb.

  • A allaf wisgo'r botwm i'r gwely?

    Os ydych chi'n gwisgo'ch botwm ar eich arddwrn, gallwch chi ei wisgo i'r gwely. Os ydych chi'n gwisgo'ch botwm o amgylch eich gwddf, nid ydym yn eich cynghori i'w wisgo i'r gwely gan y gallai ganu tra'ch bod chi'n cysgu. Os byddwch yn dewis peidio â gwisgo'r botwm i'r gwely, cofiwch ei gadw o fewn cyrraedd hawdd a mynd ag ef gyda chi pan fyddwch yn codi.

  • Beth dylwn i ei wneud os bydd fy amgylchiadau meddygol neu fanylion cyswllt yn newid?

    Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau sy'n berthnasol i’ch amgylchiadau – rhif ffôn newydd, ar fin symud tŷ, ymatebwr allweddol newydd, ac ati.  Cofiwch, os bydd eich amgylchiadau'n newid, rhowch wybod i ni ar unwaith!

  • Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i rywun ymweld â mi mewn argyfwng?

    Os yw'ch galwad oherwydd eich bod wedi cwympo, nod ein tîm ymateb i gwympiadau yw bod gyda chi o fewn 45 munud (yn dibynnu ar gapasiti). Os byddwn yn anfon y gwasanaethau brys, ni allwn warantu pryd y byddant yn cyrraedd. Fodd bynnag, rydym yn ymdrechu i gael rhywun atoch cyn gynted ag y gallwn.

  • A fydd angen tipyn o waith i osod yr offer?

    Yr unig beth sydd ei angen ar ein hunedau digidol newydd yw soced prif gyflenwad trydan. Ein nod yw gosod yr uned mewn man sy'n rhoi'r signal gorau a lle rydych chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser, fel bod ein canolfan derbyn larymau yn gallu'ch clywed yn glir os byddwch chi'n gwneud galwad frys.

  • Beth fydd yn digwydd os bydd toriad trydan neu os byddaf yn diffodd cyflenwad trydan yr uned larwm yn ddamweiniol?

    Bydd yr uned yn newid yn awtomatig i'w chyflenwad pŵer wrth gefn o'r batri a bydd yn gwneud sain rhybudd uchel ac yn rhybuddio'r Ganolfan Rheoli Argyfyngau bod y pŵer wedi diffodd.

     

    Bydd y ganolfan reoli wedyn yn cymryd y camau priodol.

     

    Mae'r batri yn para am 40 awr wrth gefn ac, os digwydd i'r batris fethu hefyd, er bod hyn yn annhebygol, bydd yr uned larwm yn gweithredu fel ffôn arferol.

  • Beth fydd yn digwydd os bydd fy uned larwm yn methu?

    Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â'r Ganolfan Rheoli Argyfyngau a byddwn yn trefnu i'r uned gael ei thrwsio neu eich bod yn cael un newydd. Byddwn yn cyfnewid yr uned ddiffygiol am un newydd cyn gynted ag y gallwn ac yn anelu at ddod i'ch cartref neu ymateb erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf.