Rhaglen Addysg ac Amgylcheddol
Mae’r holl sesiynau a arweinir gan geidwaid yn gysylltiedig â phrojectau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a Cornerstone, mae’r rhan fwyaf yn addas ar gyfer disgyblion oed Cynradd a CA3. Bydd pob sesiwn yn para awr ac mae modd eu teilwra i fod yn addas i grwpiau o unrhyw oedran neu allu.
Porthordy’r Goedwig yw’r ganolfan ar gyfer pob grwp dysgu, ac mae’n lle da i adael bagiau, i gael cinio neu i’w ddefnyddio fel ardal dysgu dan do.
Mae’r parc yn cynnig ystod o weithgareddau i ysgolion, gan gynnwys sesiynau a arweinir gan geidwaid, sesiynau hunan-arwain/a arweinir gan athrawon, a theithiau a sgyrsiau a arweinir gan y ceidwaid.
Mea gan y parc hefyd app Realiti Estynedig - Porthkerry AR - a fydd yn eich galluogi i ddod â rhannau o’r parc yn fyw wrth ei grwydro. Cewch gwrdd ag ychydig o gymeriadau hanesyddol y parc, casglu planhigion ac anifeiliaid rhithiol ar hyd y ffordd wrth i chi chwilio am y rhai go iawn, a chasglu mythau a chwedlau o amgylch y parc gyda’r daith stori.
Apiau a Gweithgareddau Teithiau Cerdded, Sgyrsiau ac Addysg