Cost of Living Support Icon

Cwynion Ysgol

Mae Adran 29 o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion ac i roi cyhoeddusrwydd i weithdrefnau o'r fath.

 

Trefn Gwyno'r Ysgol

 

Ar ddiwedd mis Hydref 2012 cysylltodd yr Uned Cefnogi Llywodraethwyr (GSU) â’r holl Benaethiaid, Cadeiryddion, Is-gadeiryddion a chlercod cyrff llywodraethu ysgolion y Fro a dywedwyd wrthynt y gellir mabwysiadu’r model gweithdrefnol hwn yn eu cyfarfod corff llywodraethu llawn nesaf, a dosbarthwyd y ffurflenni isod i'r diben hwn. 

 

Model Gweithdrefn Gwyno

Gweithdrefn Gwyno Ysgol

 

Gellir cysylltu â MEIC drwy radffôn: 0808 802 3456, neu neges destun: 84001. Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei weithredu 24 awr y dydd.

 

Gellir cysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru drwy radffôn: 0808 801 1000 (dydd Llun i ddydd Gwener 9:00am-5:00pm), neges destun: 80 800 (dechreuwch eich neges gyda COM) neu e-bostiwch: advice@childcomwales.org.uk

 

Gweler Atodiad A ac Atodiad B