Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae Strategaeth Coed 2024-2039 yn nodi'r ffordd y bydd y Cyngor yn rheoli ac yn gwella coed ym Mro Morgannwg dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys ymrwymiad i gynyddu gorchudd y canopi 7.5% erbyn 2039. Mae coed a Choetiroedd yn rhan bwysig o dirweddau trefol a gwledig Bro Morgannwg. Mae'r Strategaeth hon yn edrych ar sut y bydd y Cyngor yn diogelu, rheoli a chynyddu gorchudd canopi coed yn y Fro er mwyn meithrin gwydnwch, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth gan fod coed yn rhan annatod o'n hamgylchedd ac mae ganddynt rôl allweddol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ym mis Gorffennaf 2019, ymunodd y Cyngor â Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill ledled y DU wrth ddatgan Argyfwng Hinsawdd mewn ymateb i Adroddiad Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd i effaith cynhesu byd-eang. Yn ogystal â hyn ym mis Gorffennaf 2021, datganodd y Cyngor Argyfwng Natur yn dilyn adroddiad Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN) `Cyflwr Natur 2019` a ganfu fod 8% o rywogaethau a geir yng Nghymru (523) yn cael eu bygwth o ddifodiant o Brydain, 17% (666) yn cael eu bygwth o ddifodiant o Gymru ac mae 73 eisoes wedi darfod. Mae'r Cyngor wedi ffurfio'r Strategaeth Coed hon fel rhan o Brosiect Zero, cynllun y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030, gan fod gan goed, coetiroedd a gwrychoedd rôl hanfodol wrth fynd i'r afael ag eithafion hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Yn ogystal â lliniaru colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd, mae coed hefyd yn ffordd gost-effeithiol o wella ansawdd yr amgylchedd o fewn ein trefi a'n pentrefi, gan sicrhau manteision corfforol, lles cymdeithasol ac economaidd. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Goed ddrafft o fis Ionawr - Ebrill 2024. Roedd yr ymgynghoriad ar ffurf holiadur, a dadansodwyd ymatebion a'u defnyddio i lywio fersiwn derfynol y Strategaeth Coed.
Gwirfoddolwch i gefnogi cyflawni ein Strategaeth Coed - boed hynny drwy ddyfrio, monitro am fandaliaeth, neu adrodd am faterion.
Cofrestrwch yma
Ymunwch â ni yn y Sioe Deithiol Strategaeth Coed i ddysgu mwy am y strategaeth a darganfod cyfleoedd ar gyfer sut y gallwch gymryd rhan!
Dydd Mawrth 15fed Ebrill
Penarth: Maes Parcio Cliff Top
11:30am - 1:30pm
Dydd Mercher 16 Ebrill
Y Barri: Parc Canolfan Chwaraeon Colcot
Dydd Mawrth 22ain Ebrill
Rhws: Carcio Canolfan Gymunedol Celtic Way
Dydd Iau 24ain Ebrill
Dydd Llun 28ain Ebrill
Sain Tathan: Parc Canolfan Gymunedol
Dydd Mawrth 29 Ebrill
Dydd Iau 1af Mai
*what3words yn rhoi cyfeiriad tri gair unigryw i bob sgwâr 3 × 3m - gall pobl ddefnyddio'r wefan neu'r ap i ddod o hyd i leoliadau a'u rhannu yn hawdd.
Os oes gennych ymholiad am y Strategaeth Coed ac yr hoffech gysylltu â ni, cysylltwch â: