Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae tor-amodau rheolaeth gynllunio y mae’r Cyngor yn delio â hwy yn cynnwys:
Os hoffech weld achosion gorfodi presennol neu hanesyddol ym Mro Morgannwg gallwch wneud hynny drwy’r
Cofrestr Gorfodi Cynllunio
Os ydych yn amau bod rheoliad cynllunio wedi ei dorri, cwblhewch y ffurflen gwyno ar-lein.
Ni fydd cwynion dienw’n cael eu hystyried fel arfer. Er y bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i gadw eich cwyn yn gyfrinachol, mae’n bosibl y bydd angen ei datgelu os cyflwynir hysbysiad gorfodi a bod y mater yn mynd i apêl.
Gorfodi Cynllunio ~ Canllaw i'r Cyhoedd
Bydd y Cyngor yn ceisio cydnabod cwynion a wnaed yn ysgrifenedig, drwy’r ffurflen ar-lein neu drwy e-bost o fewn 5 niwrnod gwaith.
Ymchwilir i gwynion ysgrifenedig yn ôl y drefn flaenoriaeth a ddynodir i’r gŵyn: Blaenoriaeth 1, o fewn 1-5 diwrnod gwaith, Blaenoriaeth 2 o fewn 5 i 15 diwrnod gwaith, a Blaenoriaeth 3 o fewn 28 diwrnod gwaith.
Asesu difrifoldeb y tor-amod o fewn 28 diwrnod.
Rhoi gwybod i achwynwyr am ddatrysiad achos o fewn 28 diwrnod o’r datrysiad.
I gael rhagor o wybodaeth am bwerau gorfodi cynllunio gweler Llawlyfr Rheoli Datblygiadau Llywodraeth Cymru