Cofrestru Contractwr
Mae'n ofynnol i gontractwyr sy'n dymuno masnachu o fewn Bro Morgannwg gofrestru fel cwsmer gyda Chyngor Bro Morgannwg.
Dylid anfon manylion busnes llawn, a chopi o'ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (£5 miliwn) drwy e-bost at skipsscaffolding@valeofglamorgan.gov.uk
Sut fyddai contractwr yn gwneud cais?
Unwaith y byddwch wedi cofrestru fel contractwr, gallwch wneud cais am drwydded sgipio ar-lein:
Gwneud cais am drwydded sgipio
Ar ôl derbyn eich cais, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i roi'r drwydded dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn un diwrnod gwaith.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd y lleoliad yn cael ei asesu er mwyn sicrhau ei addasrwydd ac i sicrhau nad oes pryderon diogelwch y cyhoedd.
Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd y contractwr yn derbyn cadarnhad e-bost gyda dolen talu trwydded.
Os oes gan y Cyngor awgrym arall, neu os oes angen eglurhad pellach, bydd y cais yn cael ei ddiweddaru ar-lein a bydd y contractwr yn derbyn hysbysiad e-bost.
Unwaith y bydd y drwydded wedi'i rhoi, a bod y sgip ar y safle, byddwch yn gallu defnyddio'ch sgip yn unol â'r telerau a'r amodau.
Sylwer, pe bai unrhyw ddifrod i'r briffordd yn cael ei godi yna bydd costau llawn gwaith atgyweirio yn cael eu hadennill gan Gyngor Bro Morgannwg.
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a diogelwch cyhoeddus mae swyddogion cynnal a chadw priffyrdd yn gwneud gwiriadau safleoedd yn aml.