Cymeradwyaeth Dechnegol
Yn ôl gofynion Cyngor Bro Morgannwg, mae pob strwythur arfaethedig o fewn terfyn y briffordd neu sy’n cefnogi’r briffordd gyhoeddus yn destun ystyriaeth ar gyfer Cymeradwyaeth Dechnegol.
Gallai hyn gynnwys strwythurau arfaethedig i’w mabwysiadu neu rai eraill sy’n gysylltiedig â datblygiadau preifat.
Nodau gweithdrefnau Cymeradwyaeth Dechnegol yw sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, bod strwythurau ar y briffordd yn ddiogel i’w defnyddio ac yn addas at y swyddogaeth a fwriadwyd iddynt, ac nad yw strwythurau nad ydynt ar y briffordd yn rhwystro’r briffordd neu beryglu ei ddefnyddwyr.
Manylir ar weithdrefnau Cymeradwyaeth Dechnegol Cyngor Bro Morgannwg yn BD2 (Cymeradwyaeth Dechnegol Strwythurau ar y Briffordd), sy’n cyfeirio at y materion yn yr wybodaeth hon.
Mae Cymeradwyaeth Dechnegol yn golygu adolygiad o gynnig y dylunydd gan Awdurdod Cymeradwyaeth Dechnegol (ACD) a gallai gynnwys ardystiad gan ddylunydd a gwiriwr annibynnol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth ‘fel yr adeiladwyd’, gyda thystysgrif cydymffurfiaeth adeiladu.
ACD y Cyngor yw Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio Economaidd (y swyddog sy’n gweinyddu’r pwerau dirprwyedig yw Peiriannydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg.)
Gweithredu gweithdrefnau Cymeradwyaeth Dechnegol - cynhelir pob ymgynghoriad rhwng y cynllunydd a Pheiriannydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg yn Swyddfa’r Alpau, Gwenfô, CF5 6AA. Rhif ffôn: 029 2067 3105.
Cymeradwyaeth mewn Egwyddor (AIP) - bydd cyflwyniad yr AIP yn gofnod o bob mater a gytunwyd arno yn ystod y cyfnod cynllunio. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys Amserlen y Gymeradwyaeth Dechnegol (TAS), cynllun o’r safle, darlun y trefniant cyffredinol, unrhyw adrannau perthnasol i’r adroddiad daearyddol-dechnegol sy’n ymwneud â’r ymgynghoriad ac unrhyw wybodaeth berthnasol bellach. Caiff ei anfon at Beiriannydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg.
Tystysgrif Dylunio a Gwirio - bydd y cyfryw dystysgrifau, ynghyd â Thystysgrif Cydymffurfiaeth Adeilad, yn cael eu llofnodi i gadarnhau cwblhad boddhaol y gwaith, a chânt eu hanfon at Beiriannydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg. Bydd y tystysgrifau’n cyfeirio at yr AIP perthnasol a dyddiad cytuno’r AIP. Ni ddylid cyflwyno amcanrifau.
Cymeradwyaeth Dechnegol – bydd hyn yn cynnwys derbyn y Tystysgrif(au) a’r darluniau ac ati gan y TAA. Bydd tystysgrifau cymeradwy wedi eu llofnodi’n cael eu copïo a’u dychwelyd at y cynllunydd.
Tystysgrif Cydymffurfiaeth Adeiladu – mae gofyn cyflwyno’r cyfryw dystysgrifau yn achos pob adeiladwaith y cynigir eu mabwysiadu.
Cymeradwyaeth Strwythurol ar gyfer Rheoli Adeiladu – bydd Grŵp Cynlluniau Adeiladwaith y Priffyrdd a Pheirianneg yn adolygu cyfrifiadau strwythurol sy’n ymwneud â Cheisiadau Cynllunio a gyflwynir i gadarnhau’r effaith a gânt ar y briffordd fabwysiedig.