Cost of Living Support Icon

Cronfa Gyfamod y Lluoedd Arfog

Bwriad y Gronfa Gyfamod yw cynnig cefnogaeth ariannol i gynlluniau lleol sy’n cryfhau’r cysylltiadau neu’r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau cymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach maen nhw’n byw ynddi.

 

Mae’r Cynllun Grant yn ystyried ceisiadau am brosiectau sy’n cyfleu canlyniadau gweladwy ac sy’n cyd-fynd ag amcanion cyffredinol y Gronfa Gyfamod. Gall cais am arian gael ei gyflwyno gan unrhyw gynrychiolwyr o’r gymuned. Gallai hyn gynnwys grwpiau gwirfoddol, elusennau, cyrff cyhoeddus fel ysgolion, ac yn y blaen.

 

Caiff ceisiadau eu hystyried gan banel o’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Thrysorfa Ei Mawrhydi, ond bydd gofyn iddynt gael eu cymeradwyo gan brif gyfranogwyr Partneriaeth y Cyfamod Cymunedol (gweler y canllawiau am fanylion y broses yn ei chyfanrwydd) cyn cael eu hanfon at y Weinyddiaeth.

 

Mae dau fath o grant ar gael:

 

  • Grantiau bach hyd at £20,000: proses gais un cam
  • Grantiau mwy hyd at £500,000: proses gais dau gam, sef Mynegiant o Ddiddordeb cychwynnol ac yna (os bydd cam un yn llwyddiannus), cais Achos Busnes i ddilyn

Gellir cyflwyno ceisiadau drwy Gyngor Bro Morgannwg                                                                            

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Cyflwyno Ceisiadau i’r Cyngor

Dylid cynnwys dogfennau priodol, h.y. copïau o amcanbrisiau ar gyfer y gwaith arfaethedig, gyda’r cais.

 

Rhaid i’r ymgeiswyr dderbyn cymeradwyaeth gan aelodau Partneriaeth y Cyfamod Cymunedol cyn cyflwyno’r cais, a dylid darparu tystiolaeth o’r gymeradwyaeth hon gyda’r cais.

 

Mae gofyn i bob cais cyflawn gael ei anfon drwy e-bost at Carolyn Michael, Rheolydd Gweithredol Cyfrifyddiaeth:

 

Ministry of Defence logo

Cyflwyno Ceisiadau i’r Weinyddiaeth Amddiffyn

Bydd y Cyngor yn adolygu’r Ffurflen Gais a’r ddogfennaeth sydd ynghlwm, ac yn cysylltu  / cyfarfod â’r ymgeisydd i drafod unrhyw faterion sy’n codi neu i ofyn am wybodaeth bellach.

 

Unwaith bydd cais cyflawn wedi cael ei dderbyn, a bydd holl gyfranogwyr y Cyfamod wedi ymrwymo i gefnogi’r cynnig, bydd y Cyngor yn cyflwyno’r cais yn uniongyrchol i’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Ffurflenni Cais a Chanllawiau

Nid yw gwefan GOV.UK yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd, ond bydd yn gwneud hynny unwaith eto ym mis Mai 2016. Bydd manylion pellach am y Gronfa Gyfamod, ynghyd ag arweiniad llawn, yn ymddangos ar y wefan ddechrau mis Mai 2016.

 

Ffurflenni Cais a Chanllawiau'r Gronfa Gyfamod 

 

Os caiff cynnig ei gymeradwyo gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, bydd y Cyngor yn gweinyddu’r arian yn seiliedig ar dderbyn y dogfennau perthnasol gan yr Ymgeiswyr.

 

Bydd gofyn i’r Ymgeiswyr lofnodi Gweithred Grant yn ogystal. Caiff hon ei theilwra i’r cynllun penodol y derbynnir arian ar ei gyfer.