Cost of Living Support Icon

Glanhau Gylis 

Cynnal gylïau priffyrdd ar lwybrau strategol a llwybrau anstrategol

 

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am tua 20,682 o gylïau priffyrdd. Cynhelir y rhain gyda phedwar swyddog cynnal a chadw a dau gerbyd tancer gyli ac mae'r tîm yn gyfrifol am weithgareddau glanhau a glanhau adweithiol arferol ar draws Bro Morgannwg gyfan.

 

Sylwer: Os yw cerbydau wedi'u parcio dros gyli priffordd, nid yw'n bosibl iddo gael ei lanhau. Yn gyffredinol, nid ydym yn delio â gylïau gydag arogleuon carthffosiaeth gan mai dŵr Cymru sy'n gyfrifol am y rhain yn aml, ond mae carthffosydd cyfun hanesyddol hefyd mewn rhai rhannau o Fro Morgannwg, felly byddwn yn mynychu ac yn ymchwilio ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.

 

Gylïau Llwybrau Anstrategol:

I’w harolygu a’u glanhau bob 15 mis

Gylïau Llwybrau Strategol:

I’w harolygu a’u glanhau bob 12 mis

 

Ailgylchu Gwastraff Gyli

Gully Waste Recycling Centre

Ym mis Mai 2007, bu i ni ddylunio a chreu cyfleuster ailgylchu gwlyptir gwely’r gors ar y cyd ag arbenigwyr o Brifysgol Caeredin ar gyfer y deunydd a dynnir o’r gyli.

 

Mae’r cyfleuster gwlyptir gwely’r gors yn rhoi’r gallu i gynghorau partner ailgylchu gwastraff gyli am bris is.

 

Mae’r safle’n trin tua 1,200 tunnell o wastraff gyli ffordd y flwyddyn fel deunydd llysnafeddog. Ariannwyd y project gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont at Ogwr a Chyngor Caerdydd.

 

Mae’r tri awdurdod yn ystyried mai’r cyfleuster hwn yw’r ateb cynaliadwy i broblem ailgylchu gylis.

 

Rhoi gwybod am Gyli wedi'i Rwystro, wedi'i Ddifrodi, wedi'i Dorri neu wedi'i Ddwyn

Rhowch wybod i ni am broblem ynghylch gyli gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Rhowch wybod am broblem draeniau trwy gwblhau ein ffurflen ar-lein neu gysylltu â’r Gwasanaethau Gweladwy:

 

 

Rhoi Gwybod am Broblem Gyli Ar-Lein