Cost of Living Support Icon

Gwastraff Masnachol gyda Chyngor Bro Morgannwg

Fel busnes, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i waredu gwastraff yn gywir. Eich dyletswydd gofal yw’r enw am hyn.

 

Bydd angen i chi gadw eich gwastraff yn ddiogel a defnyddio cludydd gwastraff cofrestredig i'w waredu neu ei ailgylchu. Mae eich dyletswydd gofal yn para o'r eiliad y caiff y gwastraff ei gynhyrchu i'r adeg y caiff ei dderbyn gan eich cludydd gwastraff cofrestredig.

 

Fel cludydd gwastraff cofrestredig, mae ein gwasanaeth gwastraff masnachol cost isel, hyblyg a chynaliadwy wedi ei gynllunio i wneud rheoli eich gwastraff masnachol yn hawdd.

 

Commercial recycling vehicle and site

 

Sylwch: Rydym wedi lansio gwasanaeth gwastraff masnachol newydd i'ch helpu i fodloni'r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle diweddaraf yng Nghymru. O 20 Mawrth 2024 na fyddwch bellach yn gallu prynu na chasglu rholiau o sachau ailgylchu masnachol clir na sachau gwastraff cyffredinol masnachol glas o'n siopau. O'r wythnos yn dechrau ar 8 Ebrill 2024 ni fyddwn bellach yn gallu casglu ailgylchu cymysg yn ein sach ailgylchu masnachol clir.

 

Pam ein dewis ni?

Rydym yn gwneud rheoli eich gwastraff masnachol yn hawdd drwy gynnig:

 

Tystysgrifau dyletswydd gofal am ddim

Mae angen tystysgrif dyletswydd gofal arnoch fel prawf eich bod yn gwaredu'ch gwastraff yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.

 

Rydym yn darparu tystysgrifau dyletswydd gofal am ddim ar gyfer ein holl gwsmeriaid. 

 

Dylech gadw eich tystysgrif dyletswydd gofal am o leiaf ddwy flynedd.

 

 

 

Gwasanaeth hyblyg sy'n werth gwych am arian

Mae ein gwasanaeth ailgylchu gwastraff masnachol yn eich galluogi i ddewis

o’r tri opsiwn tanysgrifio sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion busnesau o bob math a maint.

 

Mae ein hychwanegion bwyd a gwastraff cyffredinol dewisol yn rhoi'r hyblygrwydd i chi addasu eich gwasanaeth a chael y gwerth gorau am arian.

 

 

Gwasanaeth cynaliadwy sy'n eich helpu i fodloni rheoliadau Llywodraeth Cymru

Bydd rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd yn dechrau ar 6 Ebrill 2024. O'r dyddiad hwn, bydd yn rhaid i bob gweithle wahanu eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o aelwydydd yn ei wneud nawr.

 

Mae ein gwasanaeth gwastraff masnachol wedi'i gynllunio i wneud bodloni’r rheoliadau hyn yn hawdd.

 

 

Ein gwasanaethau

 Mae gennym nifer o wasanaethau rheoli gwastraff masnachol cost-effeithiol ar gael:

 

Commercial waste option 1

Opsiwn 1

Un bag 90L pedair adran ar gyfer ailgylchu ar wahân, sy’n cael ei gasglu unwaith yr wythnos.

 

 £104 y flwyddyn

 

Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych yn cynhyrchu un bag neu lai o ailgylchu bob wythnos. 

 

Mae'r opsiwn hwn yn addas ar gyfer busnesau bach nad ydynt yn cynhyrchu llawer o ailgylchu, er enghraifft:

  • Microfusnesau

  • Cyfrifwyr

  • Asiantau tai

  • Cyfreithwyr bach

  • Salonau harddwch

Commercial waste option 2

Opsiwn 2

Detholiad o hyd at bedwar cynhwysydd ailgylchu ar wahân, sy’n cael ei gasglu unwaith yr wythnos.

  

 £210 y flwyddyn

 

Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych yn cynhyrchu hyd at bedwar bag o ailgylchu bob wythnos. 

  

Mae'r opsiwn hwn yn addas ar gyfer busnesau bach i ganolig sy'n cynhyrchu swm tebyg o wastraff i aelwyd arferol, er enghraifft:

  • Siop goffi

  • Deintyddfa

  • Swyddfeydd mwy

  • Manwerthwyr bach

Commercial waste option 3

Opsiwn 3

Pecyn bin pwrpasol ar gael ar gontract treigl. Mae cyfnod rhybudd o 3 mis i'w ganslo.

 

Dyfynbris ar gael ar gais

  

Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych yn cynhyrchu mwy na phedwar bag o ailgylchu bob wythnos. 

 

Mae'r opsiwn hwn yn addas ar gyfer busnesau canolig i fawr sy'n cynhyrchu swm tebyg o wastraff i aelwyd arferol, er enghraifft:

  • Bwytai

  • Tafarndai

  • Siopau bwyd tecawê

  • Manwerthwyr mawr

  • Ysgolion

Gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol

Mae'r pethau ychwanegol dewisol canlynol ar gael i'w hychwanegu at eich gwasanaeth gwastraff masnachol:

  • Gallwch ychwanegu cadi gwastraff bwyd 23L i'r pecyn hwn am £104 ychwanegol

  • Gallwch ychwanegu 25 o fagiau gwastraff cyffredinol i'r pecyn hwn am £120 ychwanegol

 

Cofrestru ar gyfer gwasanaethau gwastraff masnachol