Gwaith Allanol / Mewnol - bydd angen mynd i'r afael â hyn dros y 30 mlynedd nesaf h.y., Ail-doi, tynnu asbestos, gosod wyneb newydd / gwaith atgyweirio allanol, ceginau, ystafelloedd ymolchi, ail-wifro a gwres canolog. Mae gwaith allanol hefyd yn gallu cynnwys ail-bwyntio waliau’r adeilad, atgyweirio neu newid rendrad confensiynol, inswleiddio’r waliau allanol, ailosod cladin a thynnu neu ail-bwyntio a/neu ailadeiladu cyrn simneiau.
Gwaith Atgyweirio Tai Annhraddodiadol: Gall gwaith i’r mathau hyn o eiddo gynnwys, pan fo angen gwneud hynny i gyflawni safonau GAS (Gweithdrefnau Asesu Safonol) priodol, inswleiddio waliau allanol ac unrhyw waith cysylltiedig. DS: Os bydd waliau allanol eiddo’n cael eu hinswleiddio, gall hynny gynnwys adnewyddu’r to a’r ffenestri fel rhan o’r cynllun.
Gwaith Cymunedol: Gall gwaith gynnwys newid systemau mynediad drws, drysau tân cymunedol, systemau larwm tân, newid seilwaith trydanol, ail-baentio, lloriau newydd a goleuadau newydd.
Materion Allanol Eraill: Gall gwaith gynnwys atgyfnerthu neu adnewyddu waliau cerrig a ystyrir yn ddiffygiol, gwaith i systemau draenio ac atgyweirio elfennau concrit sydd wedi diffygio. Mae hefyd yn gallu cynnwys atgyweirio, adnewyddu neu wella (lle bo’n angenrheidiol ac yn briodol) llwybrau cerdded, tai allan / siediau, cyfleusterau sychu dillad a therfynau (ffensys, waliau ac ati).