Cost of Living Support Icon

196 Railway Road, Y Rhws

Perchentyaeth Cost Isel:  Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy

 

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf sy’n dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? 
  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad? 
  • Does dim angen edrych ymhellach, gallai perchentyaeth fod o fewn eich cyrraedd.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gynnig ar y cyd â Thai Wales & West dŷ pâr 3 ystafell wely yn y Rhws fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Mae hwn yn eiddo i’w ail-werthu gyda sgôr TPY B.

 

Mae'r eiddo mewn ffordd bengaead dawel ac mae ganddo olygfeydd o'r môr.

 

Mae'r llety yn cynnwys: 

  • Cyntedd a thoiled lawr llawr
  • Lolfa
  • Cegin
  • Tair Ystafell Wely
  • Ystafell Ymolchi
  • Gardd Gefn
  • Dau le parcio

 

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo. 

 

  196 Railway Road 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad £175,000 (y pris 100% yw £250,000).

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, ffoniwch:

 

Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.

 

Bydd ymgeiswyr cymwys:

  • Yn prynu am y tro cyntaf
  • Yn gallu cael morgais am werth yr eiddo
  • Â modd o gael blaendal
  • Â chysylltiad â'r ardal leol

Sylwch:  Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol, nodir y rhain yn y Cwestiynau Cyffredin.