Cost of Living Support Icon

Gwybodaeth i Gyfeirwyr

O 31 Hydref 2024 ni fyddwn bellach yn derbyn copïau papur neu e-bost o atgyfeiriadau.

Os oes gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â ni yn exercisereferral@valeofglamorgan.gov.uk


Mae porth pwrpasol sy'n caniatáu i bractisau a gweithwyr iechyd proffesiynol gyfeirio cleifion at y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS).  Enw'r porth hwn yw Theseus.  Mae'n ddiogel ac yn defnyddio'r dull hwn, caiff data ei drosglwyddo'n uniongyrchol i Gronfeydd Data NERS.  Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y ddolen isod.

 

Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Ymarfer Corff GIG Cymru

 

Ar hyn o bryd mae amser aros byr rhwng atgyfeirio ac asesu gydag un o'n hyfforddwyr.  Mae'r cyfnod hwn oddeutu 8 wythnos.  Mae hyn oherwydd nifer yr atgyfeiriadau rydym yn eu derbyn a'r gofod derbyn sydd gennym ym Mro Morgannwg.  Mae NERS yn y Fro bellach yn wasanaeth di-bapur a byddant yn cysylltu â chleifion trwy neges destun neu e-bost.  

 

Mae gennym amserlen o ddosbarthiadau ar gael ar y tudalennau hyn ac rydym yn ceisio diweddaru'r amserlenni mor aml â phosibl er mwyn sicrhau gwybodaeth gywir i'r bobl hynny sy'n cael eu cyfeirio. 


Mae'r cynllun yn un cost isel. Bydd pob sesiwn yn costio £2.50 i gyfranogwyr. Mae’r cynllun yn para rhwng 4-32 wythnos yn dibynnu ar y cyflwr y mae’r unigolyn yn cael ei atgyfeirio ar ei gyfer a’i gynnydd tra’n ymarfer.